Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn cryfhau cefnogaeth i breswylwyr wrth i bwysau costau byw gynyddu
Published: 17/06/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi egluro鈥檙 gwaith helaeth sy鈥檔 cael ei wneud i gefnogi preswylwyr wrth i gostau byw barhau i roi pwysau ar aelwydydd ar draws y sir.
Clywodd Aelodau鈥檙 Cabinet heddiw fod y Cyngor yn darparu amrywiaeth eang o fesurau i helpu preswylwyr i reoli costau cynyddol, cael mynediad at wasanaethau hanfodol, a chynnal sefydlogrwydd ariannol.
Yn y cyfarfod, clywyd bod cefnogaeth i blant a theuluoedd yn dal i fod yn flaenoriaeth. Mae Prydau Ysgol am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) bellach o fudd i 8,294 o blant ysgol gynradd ar draws Sir y Fflint, ac mae 4,674 o ddisgyblion yn dal i fod yn gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim ar sail prawf modd, ac mae 589 arall wedi鈥檜 diogelu dan drefniadau pontio.
Clywodd y Cabinet ei bod yn dal i fod yn bwysig bod teuluoedd cymwys yn cyflwyno cais am Brydau Ysgol am Ddim, hyd yn oed wrth gael UPFSM, er mwyn sicrhau bod ysgolion yn parhau i gael cyllid o鈥檙 Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer y plant hyn.
Mae hefyd yn golygu bod cefnogaeth ychwanegol ar gael, gan gynnwys bod yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol. Eleni, darparwyd 4,674 o grantiau sy鈥檔 dod i gyfanswm o 拢618,000 i helpu gyda chostau gwisg ysgol ac offer.
Clywodd y Cabinet hefyd fod cefnogaeth 芒 chostau tai yn dal i fod yn faes allweddol o ran galw. Dyfarnodd y Cyngor Daliadau Disgresiwn at Gostau Tai gwerth 拢270,000 yn 2025/26. Yn ogystal, darparodd Cronfa Ddisgresiwn y Cyfrif Refeniw Tai 拢122,372 i helpu tenantiaid y Cyngor gydag 么l-ddyledion rhent, anghenion hanfodol yn y cartref a chefnogaeth mewn argyfwng.
Mae help yn cael ei ddarparu i aelwydydd sy鈥檔 dibynnu ar danwydd oddi ar y grid hefyd, sy鈥檔 cynnwys olew gwresogi ac LPG. Bydd cynllun yn agor cyn hir i breswylwyr sy鈥檔 cael cefnogaeth trwy Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Gallant gael taliad 拢200. Yn y cyfamser, mae鈥檙 Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig hyd at 拢750 tuag at danwydd oddi ar y grid ar gyfer pobl heb unrhyw gynilion.
Mae gwaith ar dlodi bwyd yn parhau i ehangu hefyd, gyda mwy o ddefnydd o bantr茂au ac oergelloedd cymunedol ar draws y sir. Mae鈥檙 Cyngor wedi darparu cyllid refeniw a chyfalaf i gryfhau鈥檙 gwasanaethau hyn.
Bu wyth ar hugain o Fannau Cynnes a Diogel yn gweithredu dros fisoedd y gaeaf, gan gynnig bwyd, cynhesrwydd, cyswllt cymdeithasol a mynediad at gefnogaeth ehangach. Mae鈥檙 fenter Ffrwythau am Ddim mewn Ysgolion Uwchradd yn parhau i hybu bwyta鈥檔 iach a lleihau anghydraddoldeb o ran bwyd.
Mae Sir y Fflint yn arwain y ffordd yng Nghymru trwy ddefnyddio platfform Olrhain Teuluoedd Incwm Isel, sy鈥檔 helpu i nodi preswylwyr a fyddai鈥檔 elwa鈥檔 ariannol o ymgysylltiad rhagweithiol wedi鈥檌 dargedu.
Mae鈥檙 Cyngor wedi llofnodi Siarter Budd-daliadau Cymru ac mae鈥檔 gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i symleiddio mynediad at fudd-daliadau sydd wedi鈥檜 datganoli a sicrhau profiad mwy tosturiol a chyson i breswylwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a鈥檙 Aelod Cabinet Cyllid, Gwerth Cymdeithasol a Chymunedau: 鈥淩ydym yn gwybod bod nifer o aelwydydd ar draws Sir y Fflint yn parhau i wynebu pwysau ariannol go iawn fel costau cynyddol, incymau ansicr a heriau鈥檙 gyfundrefn les yn ddyddiol.
鈥淓in blaenoriaeth yw sicrhau bod modd i breswylwyr gael mynediad at y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir, boed hynny鈥檔 help gyda chostau tai, bwyd, hanfodion ysgol neu gyngor lles.
鈥淒yma pam mae鈥檙 gwaith ataliol a amlygwyd yn hyn mor bwysig 鈥 rydym yn nodi angen yn gynharach ac yn helpu teuluoedd cyn i broblemau fynd yn argyfyngau.
鈥淏yddwn yn parhau i weithio鈥檔 agos gyda phartneriaid i gryfhau ein hymateb a chefnogi lles ein cymunedau.鈥