Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynlluniau i ehangu鈥檙 ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Published: 17/06/2026
Mae rhaglen fuddsoddi fawr i ehangu darpariaeth addysg arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi cael ei chymeradwyo gan Gabinet Cyngor Sir y Fflint.
Mae'r cynlluniau'n rhan o strategaeth hirdymor i fynd i'r afael 芒'r galw cynyddol am leoliadau arbenigol, lleihau dibyniaeth ar ddarpariaeth gostus y tu allan i'r sir a sicrhau y gall plant gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn nes at adref.
Nododd adroddiad i'r Cabinet sut mae'r galw am ddarpariaeth arbenigol wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae cam cyntaf y rhaglen yn cynnwys datblygu canolfan addysg arbenigol newydd ar gyfer dysgwyr 芒 phroffiliau niwroamrywiol ac sy鈥檔 osgoi鈥檙 ysgol ar sail emosiwn (EBSA), yn hen adeilad Ysgol Croes Atti yn y Fflint. Wedi'i reoli gan Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen, bydd y cyfleuster yn darparu lle i tua 80 o ddysgwyr, yn ogystal 芒 darparu cefnogaeth allgymorth ac ymyriadau i blant mewn lleoliadau prif ffrwd.
Cymeradwyodd y Cabinet hefyd greu canolfan gynhwysiant newydd ar y safle yn Ysgol Treffynnon. Bydd y ganolfan fodiwlaidd bwrpasol yn darparu amgylchedd hyblyg i ddisgyblion sydd angen cefnogaeth ychwanegol, ymyriadau arbenigol a chymorth i gael mynediad at weithgareddau dysgu.
Rhagwelir y bydd mwy o'r canolfannau hyn yn cael eu creu mewn ysgolion uwchradd eraill fel rhan o gam diweddarach y rhaglen.
Yn ogystal, bydd darpariaeth ategol newydd dan arweinyddiaeth Ysgol Pen Coch yn cael ei chreu i helpu i fynd i'r afael 芒'r galw cynyddol am leoedd ysgol gynradd arbenigol, gyda 27 o blant ar restr aros yr ysgol ar hyn o bryd. Caiff y cyfleuster ei leoli ar y cyd ar safle ysgol gynradd brif ffrwd, ac mae nifer o safleoedd ar y rhestr fer yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd.
Cytunodd y Cabinet hefyd i barhau i ddatblygu cynigion i ehangu capasiti yn ysgolion arbenigol Ysgol Pen Coch ac Ysgol Maes Hyfryd. Bydd gwaith dichonoldeb yn archwilio opsiynau gan gynnwys ehangu adeiladau presennol yr ysgol, adeiladu adeiladau newydd ar y safleoedd presennol, neu ddatblygu ysgol newydd ar gyfer pob oed ar safle gwahanol.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid o 拢1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru tuag at ganolfan gynhwysiant Ysgol Treffynnon, ac 拢1.5 miliwn pellach tuag at yr ailddatblygiad gwerth 拢5 miliwn i adeilad Ysgol Croes Atti.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: 鈥淢ae鈥檙 cynigion hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn addysg arbenigol a byddant yn sicrhau bod Sir y Fflint mewn sefyllfa dda i fodloni鈥檙 galw presennol a鈥檙 galw yn y dyfodol.
鈥淒rwy greu cyfleusterau newydd a chynyddu capasiti yn ein hysgolion arbenigol presennol, byddwn yn gallu cefnogi mwy o ddysgwyr yn nes at adref, lleihau amseroedd aros am leoedd a darparu鈥檙 amgylcheddau modern o ansawdd uchel y mae ein disgyblion yn eu haeddu.鈥