Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriadau newydd ar gynigion i ad-drefnu ysgolion ar agor
Published: 16/06/2026
Mae ymgynghoriadau newydd ar ddwy set o gynigion i ad-drefnu ysgolion wedi cael eu lansio gan Gyngor Sir y Fflint.
Mae鈥檙 Cyngor yn ceisio barn am y cynnig i gau Ysgol Gynradd Gatholig Sant Anthony ac uno Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn i greu ysgol newydd 3-18 oed.
Mae ymgynghoriad ar wah芒n yn ceisio barn ar y cynnig i uno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood.
Cynhaliwyd ymarferion ymgynghori blaenorol ar yr un cynigion yn ystod 2025, ond gohiriwyd y prosesau ym mis Mawrth 2026 pan ddaeth her gyfreithiol hwyr i law mewn perthynas 芒 phroses ymgynghori鈥檙 Ysgolion Catholig a allai fod wedi golygu goblygiadau ar gyfer ymgynghoriad Saltney hefyd.
Ceisiodd y Cyngor gyngor cyfreithiol mewn ymateb i hynny, fodd bynnag, roedd yr amser oedd ei angen i ystyried y cyngor hwnnw yn golygu nad oedd posib bodloni amserlenni statudol.
Yn dilyn yr adolygiad, cytunodd Cabinet y Cyngor i ailgychwyn yr ymgynghoriadau ar y cynigion gwreiddiol.
Mae鈥檙 newidiadau鈥檔 cael eu cynnig wrth i鈥檙 Cyngor geisio lleihau nifer y lleoedd gwag yn yr ysgolion dan sylw heb eu llenwi鈥檔 gyson yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae鈥檙 Cyngor yn credu y byddai鈥檙 cynlluniau hefyd yn cyflwyno cyfleoedd i gryfhau trefniadau arweinyddiaeth ysgolion, gwella鈥檙 amgylchedd dysgu ar gyfer disgyblion a gwneud y mwyaf o鈥檙 buddsoddiad ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru drwy鈥檙 Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Byddai unrhyw gynigion, pe byddent yn cael eu cymeradwyo yn dilyn cwblhau鈥檙 prosesau statudol gofynnol, yn cael eu gweithredu erbyn Medi 2027. Byddai hyn yn cynnwys cau Sant Anthony, gyda鈥檙 ysgol Gatholig newydd yn gweithredu ar y safleoedd sy鈥檔 weddill nes mae鈥檙 ysgol newydd wedi cael ei hadeiladu ar safleoedd Sant Richard Gwyn a鈥檙 Santes Fair yn y Fflint.
Yn yr un modd, byddai鈥檙 ysgol gynradd newydd yn Saltney yn gweithredu ar draws y ddau safle nes mae adeilad newydd yr ysgol wedi鈥檌 chwblhau ar dir yn Saltney Wood.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: 鈥淢ae鈥檙 cynigion hyn wedi cael eu datblygu mewn ymateb i niferoedd newidiol disgyblion, a鈥檙 angen i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau, gan sicrhau bod disgyblion yn parhau i gael mynediad at amgylcheddau a chyfleoedd addysgol o safon uchel.
鈥淓r bod y broses flaenorol yn destun her gyfreithiol, nid yw鈥檙 cynigion eu hunain wedi newid.
鈥淢ae鈥檔 bwysig bod pawb sydd 芒 diddordeb yn nyfodol yr ysgolion a effeithiwyd yn cael y cyfle i rannu eu barn, a byddaf yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.鈥
Mae鈥檙 ddau ymgynghoriad ar agor nes 29 Gorffennaf. Am ragor o wybodaeth, cliciwch 聽neu e-bostiwch聽catholiceducationconsultation@flintshire.gov.uk neu saltneyconsultations@flintshire.gov.uk.