天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Perfformiad cryf yn casglu Treth y Cyngor yn cael ei gydnabod

Published: 12/06/2026

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu blwyddyn gref arall o ran ei berfformiad yn casglu Treth y Cyngor, ac mae鈥檙 awdurdod wedi cyflawni鈥檙 ail gyfradd gasglu uchaf yn ystod y flwyddyn yng Nghymru ar gyfer 2025/26, drwy gasglu 97.2% o Dreth y Cyngor yn ystod y flwyddyn yr oedd yn ddyledus.聽

Mae鈥檙 ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod y Cyngor yn parhau i berfformio鈥檔 llawer gwell na nifer o awdurdodau ledled Cymru, gan gasglu tua 3.3% yn fwy na Chynghorau eraill yn ystod y flwyddyn yn y chwartel isaf. Yn ariannol, mae hyn gyfystyr 芒 拢4.5m mewn incwm ychwanegol i gefnogi gwasanaethau lleol hollbwysig i breswylwyr a chymunedau.聽

Y Cyngor hwn sydd 芒鈥檙 nifer isaf ond un o symiau sydd heb eu talu fesul annedd drethadwy o ran 么l-ddyledion mwy hirdymor.

Mae鈥檙 cyflawniad hwn yn adlewyrchu鈥檙 gwaith caled parhaus ac ymrwymiad gwasanaeth Treth y Cyngor, ynghyd 芒 chefnogaeth preswylwyr sy鈥檔 parhau i dalu eu Treth y Cyngor er gwaetha鈥檙 pwysau ariannol parhaus.

Fe ailddatganodd y Cyngor ei ymrwymiad i gefnogi preswylwyr sy鈥檔 wynebu anawsterau ariannol, gan annog unrhyw un sy鈥檔 cael trafferth gyda鈥檜 taliadau i gysylltu 芒 Gwasanaeth Treth y Cyngor cyn gynted 芒 phosibl drwy ffonio 01352 704848 i drafod y gefnogaeth a鈥檙 trefniadau talu sydd ar gael.

Wrth drafod y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Cyllid, 鈥淩ydym ni鈥檔 falch iawn o鈥檙 cyflawniad yma, ac yn ddiolchgar i breswylwyr am barhau i flaenoriaethu taliadau Treth y Cyngor mewn cyfnod sy鈥檔 parhau i fod yn hinsawdd economaidd heriol i nifer o aelwydydd.

鈥淢ae cyflawni鈥檙 ail gyfradd uchaf yng Nghymru yn gyflawniad aruthrol ac mae鈥檔 dangos effeithiolrwydd ein dull, ymroddiad ein timau ac ymgysylltiad cadarnhaol sydd gennym gyda鈥檔 cymunedau.

鈥淢ae pob punt a gasglwyd yn helpu i ni barhau i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol y mae preswylwyr yn dibynnu arnynt bob dydd.鈥