天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau ar gyfer canolfan archif newydd yn symud ymlaen ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru

Published: 04/06/2026

Mae cynlluniau ar gyfer canolfan archif newydd o鈥檙 radd flaenaf ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn dal i ddatblygu. Mae preswylwyr wedi cael eu gwahodd i fynychu cyfres o sesiynau galw heibio i鈥檙 cyhoedd er mwyn cael mwy o wybodaeth am y prosiect uchelgeisiol.

Ym mis Ebrill 2024, cymeradwyodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol gyllid cam datblygu i gefnogi cynlluniau ar gyfer canolfan archif bwrpasol newydd ger Theatr Clwyd.

Bydd y ganolfan newydd arfaethedig yn dod 芒 staff a chasgliadau gwasanaethau archif Sir y Fflint a Sir Ddinbych at ei gilydd i greu cartref modern a hygyrch ar gyfer casgliadau hanesyddol cyfoethog y rhanbarth, wrth gefnogi rhaglen gweithgarwch cymunedol tair blynedd eang.

Yn dilyn proses dendro lwyddiannus drwy Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, penodwyd Wynne Construction yn Gontractwr Dylunio ac Adeiladu ar gyfer y prosiect.

Bydd proses ymgynghori cyn y cam cynllunio ar gyfer y caniat芒d cynllunio yn rhedeg o 21 Mai i 18 Mehefin. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld y dogfennau hyn, maen nhw ar gael yn:

路听听听听听听听 Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarl芒g), yr Hen Reithordy, Rectory Lane, Penarl芒g CH5 3NR; ar agor dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau (9.30am 鈥 4.30pm); ac

路听听听听听听听 Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (Rhuthun), yr Hen Garchar, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun LL15 1HP; ar agor o ddydd Mercher i ddydd Gwener (9.30am 鈥 4.30pm)

Fel rhan o鈥檙 cam nesaf hwn, mae preswylwyr yn cael eu hannog i fynychu dau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus. Bydd y sesiynau yn cynnig cyfle i bobl ddysgu mwy am y cynigion, gofyn cwestiynau a rhannu eu barn.

Bydd y ddau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus cyn y cam cynllunio yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

  • Yr Hen Lys Rhuthun: Dydd Iau, 4 Mehefin (3pm 鈥 7pm) (Sgw芒r Sant Pedr, Rhuthun LL15 1AA)
  • Llyfrgell yr Wyddgrug: Dydd Mercher, 10 Mehefin (12 hanner dydd 鈥 5pm) (14 Canolfan Siopa Daniel Owen, yr Wyddgrug, CH7 1AP)

Ynghyd 芒 datblygiad y cynlluniau adeiladu, mae rhaglen eang o weithgareddau yn cael ei datblygu hefyd er mwyn cyflwyno archifau i gynulleidfa fwy eang ac amrywiol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru. Nod y gweithgareddau yw annog mwy o bobl i archwilio ac ymgysylltu 芒 threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a straeon Gogledd Ddwyrain Cymru.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych:聽鈥淒yma gyfle cyffrous i greu canolfan archif fodern a fydd yn helpu i gadw a dathlu鈥檙 hanes a rennir rhwng ein cymunedau am genedlaethau i ddod.

鈥淢ae鈥檙 prosiect yn fwy o lawer nag adeilad 鈥 mae鈥檔 golygu creu cyfleoedd i fwy o bobl gysylltu 芒 straeon, casgliadau a threftadaeth rhyfeddol Gogledd Ddwyrain Cymru. Byddem yn annog preswylwyr i ddod i鈥檙 sesiynau galw heibio a dysgu mwy.鈥

Meddai鈥檙 Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, Cyngor Sir y Fflint:聽鈥淢ae鈥檙 prosiect hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn nhreftadaeth ddiwylliannol y rhanbarth a bydd yn helpu i sicrhau bod ein casgliadau archif pwysig yn cael eu diogelu, eu bod yn hygyrch a鈥檜 bod yn cael eu mwynhau gan gynulleidfa fwy eang o lawer.

鈥淢ae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl eisoes yn rhan o helpu i ffurfio鈥檙 rhaglen weithgareddau, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau 芒鈥檙 ymgysylltiad hwnnw wrth i鈥檙 prosiect ddatblygu.鈥

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:聽鈥淩ydym yn falch o fod yn cefnogi cyfnod datblygu parhaus y prosiect cyffrous hwn ac yn edrych ymlaen at ei weld yn datblygu dros y misoedd nesaf. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, nod y prosiect yw dod 芒 chymunedau ynghyd i helpu i ddylunio lle croesawgar, hygyrch sy'n amddiffyn ac yn rhannu treftadaeth gyfoethog y rhanbarth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.鈥

Mae鈥檙 prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

Os hoffech ddysgu mwy am y gwasanaeth y mae AGDdC yn ei gynnig, neu gael y newyddion diweddaraf am y prosiect Archifau Creadigol, ewch i鈥檔 gwefan 鈥