天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Teithio Llesol Ewlo: Cau Ffyrdd

Published: 20/05/2026

Fe gynghorir modurwyr y bydd ffordd B5125 The Highway yn Ewlo yn cael ei chau dros dro rhwng dydd Mawrth 26 Mai am 9.30am a dydd Gwener 29 Mai am 6pm, yn rhan o waith Teithio Llesol parhaus.

Fe fydd hyn yn effeithio ar ran o鈥檙 B5125 o gylchfan Dewi Sant, hyd at Carlines Avenue.

Fe fydd trefniadau rheoli traffig ar waith drwy gydol y gwaith.

Fe anogir gyrwyr i gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw, gadael amser teithio ychwanegol, a dilyn arwyddion y llwybrau amgen a mesurau rheoli traffig a fydd ar waith yn ystod y gwaith.

Diolchwn i breswylwyr, busnesau a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a鈥檜 cydweithrediad tra bydd y gwaith yma鈥檔 cael ei wneud.