天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwahodd landlordiaid ac asiantau gosod i ddigwyddiad Fforwm Landlordiaid

Published: 13/05/2026

Gwahoddir landlordiaid ac asiantau gosod o bob rhan o Sir y Fflint i ddigwyddiad ar-lein yr wythnos hon, gan ddod 芒 gweithwyr proffesiynol tai ynghyd i drafod materion allweddol yn y sector rhentu preifat.

Bydd y digwyddiad, a drefnir gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol mewn partneriaeth 芒 Fforwm Landlordiaid Cyngor Sir y Fflint, yn darparu鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf ac arweiniad ar bynciau yn cynnwys deddfwriaeth newydd sy鈥檔 effeithio ar landlordiaid, safonau tai a datblygiadau ehangach o fewn y sector.

Bydd y rhai sy鈥檔 bresennol hefyd yn cael cyfle i ofyn聽 cwestiynau.

Nod y fforwm yw annog ymgysylltu cadarnhaol gyda landlordiaid ac asiantau wrth gefnogi tai o ansawdd uchel ar draws y sir.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein ddydd Iau, 14 Mai, o 6pm i 7.30pm. I gadw lle, anfonwch e-bost at gillian.owens@nrla.org.uk