Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cais i鈥檙 Cabinet ail-ddechrau ymgynghoriad ynghylch ad-drefnu ysgolion
Published: 08/05/2026
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael cais wythnos nesaf i gymeradwyo dau ymgynghoriad statudol newydd ar ddau gynnig i ad-drefnu ysgolion.
Bydd y Cyngor yn ceisio barn am y cynnig i gau Ysgol Gynradd Gatholig St Anthony ac uno Ysgol Gynradd Gatholig St David, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn听i greu un ysgol Gatholig newydd ar gyfer disgyblion 3-18 oed.
Bydd ymgynghoriad ar wah芒n yn ceisio barn am听y cynnig i uno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Goffa Saltney Wood.
Cynhaliwyd ymarferion ymgynghori blaenorol ar yr un cynigion yn ystod 2025, ond daethpwyd 芒鈥檙 rhain i ben ym mis Mawrth 2026 pan ddaeth her gyfreithiol hwyr i law mewn perthynas 芒鈥檙 cynigion Ysgolion Catholig a allai fod wedi cael goblygiadau ar gyfer yr ymgynghoriad ar ysgolion Saltney hefyd.
Ceisiodd y Cyngor gyngor cyfreithiol mewn ymateb i hynny, fodd bynnag, roedd yr amser oedd ei angen i ystyried y cyngor hwnnw yn golygu nad oedd posib bodloni鈥檙 amserlen statudol a nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.
Yn dilyn adolygiad, mae鈥檙 Cyngor yn dal i fod o鈥檙 farn y dylid dwyn y cynigion gwreiddiol ymlaen er mwyn i鈥檙 Cabinet wneud penderfyniad arnynt.
Ers i鈥檙 broses wreiddiol ddod i ben, mae Cod Trefniadaeth Ysgolion 2026 newydd diwygiedig wedi ei gyhoeddi ac felly bydd ymgynghoriad newydd hefyd yn sicrhau fod y broses yn cydymffurfio gyda鈥檙 Cod newydd a bod gan fudd-ddeiliaid gyfle cyfredol a theg i wneud sylwadau.
Mae鈥檙 ddau gynnig yn anelu i leihau nifer y lleoedd gwag o ganlyniad i ostyngiad yn niferoedd disgyblion, gyda鈥檙 holl ysgolion dan sylw yn gyson heb eu llenwi.
Mae鈥檙 cynigion hefyd yn cyflwyno cyfleoedd i gryfhau trefniadau arweinyddiaeth ysgolion, gwella鈥檙 amgylchedd dysgu ar gyfer disgyblion a gwneud y mwyaf o鈥檙 buddsoddiad ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru drwy鈥檙 Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Byddai unrhyw gynigion, pe byddent yn cael eu cymeradwyo yn dilyn cwblhau鈥檙 prosesau statudol gofynnol, yn cael eu gweithredu erbyn Medi 2027.
听Meddai Claire Homard, Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid:听 鈥淏ydd ail-ddechrau鈥檙 broses ymgynghori yn sicrhau bod budd-ddeiliaid a鈥檙 cyhoedd yn cael cyfle arall i rannu eu hadborth cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud.
鈥淕wnaed y penderfyniad cywir i ddod 芒鈥檙 broses wreiddiol i ben tra鈥檙 oedd yr her gyfreithiol yn cael ei hystyried yn llawn. Ar 么l adolygu鈥檙 sefyllfa, rydym yn parhau i fod yn hyderus bod y cynigion hyn yn cynrychioli鈥檙 ffordd iawn ymlaen.
鈥淏yddem yn annog pawb sydd 芒 diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau sydd ar y gweill a lleisio eu barn.鈥