天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Teithio Llesol Ewlo: Cau Cylchfan Dewi Sant

Published: 01/05/2026

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynghori preswylwyr, busnesau a defnyddwyr ffyrdd o waith pellach fel rhan o welliannau Teithio Llesol Ewlo.

Bydd cam nesaf y gwaith yn cael ei gynnal o 8yb ar 5 Mai tan 8yb ar 25 Mai, yn eithrio penwythnosau, gyda mesurau rheoli traffig ar waith ar gylchfan Dewi Sant, gan gynnwys cau braich Ffordd Parc Dewi Sant. Yn ystod y cyfnod hwn, ni chaniateir mynediad ar, nac oddi ar y gylchfan o Ffordd Dewi Sant.

Bydd traffig yn cael ei wyro ar hyd Wood Lane, a bydd busnesau lleol yn parhau i fod ar agor fel arfer.

Hoffai鈥檙 Cyngor ddiolch i breswylwyr, busnesau, a theithwyr am eu hamynedd a鈥檜 cydweithrediad wrth i鈥檙 gwelliannau hyn gael eu gwneud, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.