Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dileu dirwyon gwerth £540,000 i鈥檙 Cyngor yn dilyn gwelliannau ailgylchu
Published: 28/04/2026
Diolch i ymdrechion a chefnogaeth gynyddol trigolion Sir y Fflint, mae鈥檙 Cyngor wedi llwyddo i sicrhau bod dirwyon gwerth dros 拢540,000 yn cael eu dileu i gydnabod gwelliant ym mherfformiad ailgylchu鈥檙 sir.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi dirwyon tordyletswydd gwerth 拢356,279 ar gyfer 2022/23 a 拢184,340 ar gyfer 2023/24 wedi i Sir y Fflint fethu 芒 chyrraedd targedau ailgylchu statudol yn y blynyddoedd hynny.
Roedd y Cyngor eisoes wedi llwyddo i ddileu dirwy tordyletswydd gwerth 拢663,000 ar gyfer 2021/22.
Mae鈥檙 dirwyon wedi cael eu dileu yn dilyn ymdrechion parhaus gan y Cyngor i drawsnewid ei wasanaethau gwastraff ac ailgylchu i wella cyfraddau ailgylchu鈥檔 sylweddol.
Rhan ganolog o hyn oedd mabwysiadu Strategaeth Adnoddau a Gwastraff newydd ar gyfer 2024-2030, a oedd yn cynnwys cyfres o fesurau i helpu i arwain Sir y Fflint tuag at economi gylchol, cynyddu effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gwastraff.
Rhan o hyn oedd newid casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu (biniau du) i gylched tair wythnos ym mis Ebrill 2025, gan annog preswylwyr i ailgylchu mwy a dargyfeirio gwastraff o鈥檙 bin du.
Cefnogwyd hyn gan newidiadau eraill i鈥檙 gwasanaeth gan gynnwys proses 鈥榞wastraff gweladwy鈥 newydd mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, a gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth o ailgylchu.
Mae dangosiadau cynnar yn awgrymu bod Sir y Fflint wedi cyflawni'r targed ailgylchu statudol o 70% ar gyfer 2025/26, i fyny o 63% y flwyddyn gynt, er bod y ffigyrau terfynol yn dal i gael eu gwirio.
Cyn belled a bo鈥檙 Cyngor wedi cyrraedd y targed o 70%, mae鈥檔 gobeithio y bydd dirwy arall am fethu鈥檙 targed yn 2024/25 yn cael ei dileu hefyd.
Meddai Katie Wilby, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant:聽 鈥淩ydym yn falch bod y cynnydd sylweddol a wnaethpwyd i鈥檔 perfformiad ailgylchu ar draws Sir y Fflint wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru trwy ddileu鈥檙 dirwyon hyn.
鈥淩ydym wedi canolbwyntio ar ddarparu newid ystyrlon, hirdymor i symud Sir y Fflint tuag at economi mwy cylchol.
鈥淓r bod rhagor o waith ar 么l i鈥檞 wneud, mae鈥檙 canlyniadau hyn yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae鈥檙 newidiadau wedi鈥檜 cael ac ymdrechion ein cymunedau, a hoffem ddiolch i breswylwyr am eu cefnogaeth barhaus.鈥