天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dyn wedi'i ddedfrydu yn y llys am ymosod ar swyddog y Cyngor

Published: 27/03/2026

Mae dyn a ymosododd ar swyddog Cyngor Sir y Fflint a oedd yn cyflawni ei ddyletswyddau wedi cael ei ddedfrydu yn y llys.

Digwyddodd hyn ym mis Awst 2025, pan aeth swyddog o'r Cyngor i gyfeiriad ym Mynydd Isa yn gysylltiedig 芒 Rhybudd Talu Cosb heb ei dalu am dorri rheolau parcio.

Wrth siarad 芒'r preswylydd y tu allan i'r eiddo, daeth aelod arall o'r aelwyd at y drws a dechrau siarad 芒'r swyddog mewn modd difr茂ol a bygythiol.

Gwaethygodd y sefyllfa wrth i'r unigolyn barhau i ddefnyddio iaith hynod o sarhaus ac wrth iddo wneud bygythiadau o drais. Wrth i'r swyddog geisio gadael yr eiddo, ymosodwyd arno.

Adroddwyd am y digwyddiad i'r heddlu a darparodd y Cyngor dystiolaeth i gefnogi'r erlyniad, gan gynnwys lluniau o gamera corff y swyddog.

Yn y llys, plediodd y diffynnydd yn euog i ymosodiad cyffredin a chafodd ddirwy o 拢1,100. Mae鈥檔 rhaid iddo hefyd dalu iawndal o 拢300.

Dywedodd Gareth Owens, Prif Swyddog Llywodraethu Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae gan ein gweithwyr yr hawl i deimlo鈥檔 ddiogel a鈥檜 bod nhw鈥檔 cael eu parchu yn y gwaith. Ni ddylai neb wynebu trais am wneud eu gwaith a gwasanaethu eu cymunedau.

Mae ymosodiadau ar ein gweithlu yn gwbl annerbyniol, a byddwn ni鈥檔 cefnogi unrhyw gamau gweithredu鈥檔 llawn i sicrhau bod y rhai sy鈥檔 gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfrif, gan gynnwys erlyn pa fo鈥檔 briodol.鈥