天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint i ddechrau tynnu rhwystrau ar y rhwydwaith beicio yn dilyn ymgynghoriad

Published: 18/03/2026

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau ar y gwaith o dynnu nifer o rwystrau oddi ar Rwydwaith Beicio Sir y Fflint yr wythnos nesaf, yn dilyn ymarfer ymgynghori cyhoeddus diweddar a gyda chyllid gan Grant Teithio Llesol Trafnidiaeth Cymru.

Mae swyddogion y Cyngor wedi bod wrthi鈥檔 adolygu鈥檙 adborth a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, a oedd yn ceisio barn y cyhoedd am gynigion i wella hygyrchedd ar rannau o rwydwaith beicio鈥檙 sir.cycle network barriers.jpg

Roedd mwyafrif yr ymatebion yn cefnogi argymhellion cychwynnol y Cyngor, yn enwedig y cynnig i dynnu nifer o鈥檙 rhwystrau presennol i wneud y llwybrau鈥檔 fwy hygyrch i amrediad ehangach o ddefnyddwyr.

O ganlyniad, bydd gwaith bellach yn dechrau鈥檙 wythnos hon ar dynnu nifer o鈥檙 rhwystrau a nodwyd yn yr ymgynghoriad. Nod y gwelliannau yw gwneud y rhwydwaith yn haws ei ddefnyddio i feicwyr, cerddwyr, pobl sy鈥檔 defnyddio cadair olwyn, pobl 芒 phramiau, a defnyddwyr dulliau teithio llesol eraill.

Cynhyrchodd y broses ymgynghori adborth gwerthfawr gan drigolion a budd-ddeiliaid. Er bod mwyafrif yr ymatebion yn cefnogi鈥檙 cynigion i dynnu鈥檙 rhwystrau, roedd rhai鈥檔 cynnig lleoliadau gwahanol i argymhellion cychwynnol y Cyngor. Rydym wrthi鈥檔 adolygu鈥檙 lleoliadau hyn yn fwy manwl i wneud yn siwr bod unrhyw benderfyniadau a wnawn yn y dyfodol yn rhoi ystyriaeth gytbwys i hygyrchedd, diogelwch, a phryderon lleol.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dal i fod wrthi鈥檔 adolygu holl adborth yr ymgynghoriad, a bydd yn rhannu鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf pan fydd y broses honno wedi鈥檌 chwblhau.

Mae鈥檙 gwaith hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella llwybrau teithio llesol ar hyd a lled y Sir, gan helpu i greu isadeiledd cerdded a beicio mwy diogel, hygyrch a chynhwysol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: 鈥淢ae gwella hygyrchedd ar ein rhwydwaith beicio鈥檔 gam pwysig i wneud teithio llesol yn ddewis realistig i fwy o bobl yn Sir y Fflint.

鈥淩ydym yn ddiolchgar i bawb a dreuliodd amser yn ymateb i鈥檙 ymgynghoriad. Mae eu hadborth wedi helpu llywio鈥檙 gwaith pwysig hwn a bydd yn sail i newidiadau ar draws y rhwydwaith yn y dyfodol.鈥

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag active.travel@flintshire.gov.uk