Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith confoi dros nos i gychwyn yr wythnos hon ar y B5129 trwy Shotton
Published: 17/03/2026
Bydd gwaith dros nos i roi wyneb newydd ar y B5129 trwy Shotton yn dechrau鈥檙 wythnos hon.
Caiff cam cyntaf y gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd 鈥� o ochr ddwyreiniol Nelson Street i Shotton Lane 鈥� ei wneud dan drefniadau gweithio confoi dros nos a fydd yn dechrau nos Fercher, 18 Mawrth.
Bydd gwaith yn cael ei wneud rhwng 7pm a 7am er mwyn lleihau amhariad yn ystod cyfnodau brig traffig yn ystod y dydd. Disgwylir i鈥檙 trefniadau hyn fod ar waith am bythefnos.
Bydd arwyddion rhybudd ymlaen llaw yn cael eu gosod ar y safle cyn i鈥檙 gwaith confoi dros nos ddechrau.
Mae鈥檙 dyddiadau a amlinellir uchod yn adlewyrchu鈥檙 rhaglen arfaethedig gyfredol. Fodd bynnag, gall amserlen y gwaith newid dan amgylchiadau anweladwy, megis tywydd drwg neu gyfyngiadau safle annisgwyl.
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi wrth i鈥檙 cynllun fynd rhagddo.