Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad gyrfaoedd i arddangos cyfleoedd gwaith a hyfforddi yn Sir y Fflint
Published: 12/03/2026
Bydd digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd i arddangos y cyfleoedd gwaith a hyfforddi sydd ar gael ar draws Sir y Fflint yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ddinesig Cei Connah, ddydd Mercher, 18 Mawrth o 9.30am tan 3pm a bydd yn agored i bawb.
Bydd yn dod 芒 mwy na 30 o gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau addysgol ynghyd, gan roi cyfle i鈥檙 rhai sy鈥檔 bresennol ddarganfod gwahanol lwybrau gyrfa, prentisiaethau a chyrsiau hyfforddi.
Cewch gyfle i gymryd rhan mewn profiadau rhyngweithiol ac ymarferol, siarad yn uniongyrchol 芒 gweithwyr proffesiynol a dysgu am y sgiliau a鈥檙 cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer ystod eang o rolau.
Mae sefydliadau ar draws ystod eang o sectorau wedi cofrestru i gymryd rhan, yn cynnwys adeiladu, cludiant, gofal cymdeithasol, y lluoedd arfog, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, gweithgynhyrchu, a gwallt a harddwch.
Mae鈥檙 digwyddiad wedi鈥檌 drefnu drwy bartneriaeth rhwng Cymunedau am Waith a Mwy, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 janiene.davies@flintshire.gov.uk