Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gallai toiledau cyhoeddus aros ar agor o dan gynlluniau Trosglwyddo Asedau Cymunedol
Published: 25/02/2026
Gallai dyfodol tri set o doiledau cyhoeddus gael ei ddiogelu ar 么l i gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno i drosglwyddo鈥檙 cyfleusterau i reolaeth leol.
Roedd y toiledau yn Nhalacre, Treffynnon a鈥檙 Wyddgrug yn wynebu cael eu cau y llynedd oherwydd toriadau yn y gyllideb, ond cafodd y cynllun ei oedi i ganiat谩u i鈥檙 Cyngor ymgynghori ar atebion eraill i gynnal mynediad cyhoeddus i doiledau yn yr ardaloedd hyn.
Cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 5 Tachwedd a 2 Rhagfyr 2025 a oedd yn gofyn am safbwyntiau ar ystod o ddewisiadau, gan gynnwys ystyried Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol posib i drosglwyddo rheolaeth y cyfleusterau i sefydliadau eraill.
Yna cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y tri Chyngor Tref a Chymuned, ac mae Aelodau鈥檙 Cabinet bellach wedi cytuno i weithredu鈥檙 trosglwyddiadau.
Cyn trosglwyddo, mae鈥檙 Cyngor yn ceisio buddsoddi 拢240,000 i adnewyddu a moderneiddio鈥檙 toiledau, i sicrhau eu bod mewn cyflwr da cyn eu rhoi i reolwr lleol.
Bydd y gwaith yn rhan o raglen fuddsoddi ehangach o 拢1.5 miliwn mewn amwynderau cyhoeddus a chanol trefi ledled Sir y Fflint, a ariennir trwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: 鈥淢ae鈥檙 Cyfleusterau hyn yn asedau cymunedol gwerthfawr ac rwy鈥檔 falch ein bod am weithredu Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol i ganiat谩u iddynt gael eu rheoli鈥檔 lleol.聽 Gobeithiaf y bydd hyn yn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i鈥檙 rhai sydd eu hangen ymhell i鈥檙 dyfodol.
鈥淩ydym yn buddsoddi yn y toiledau yn gyntaf i sicrhau eu bod yn cael eu trosglwyddo mewn cyflwr da, er mwyn iddynt barhau i wasanaethu eu cymunedau am flynyddoedd i ddod gyda chostau cynnal a chadw is.鈥
Bydd Cyngor y Sir yn cyfarfod 芒'r cynghorau tref a chymuned berthnasol yn fuan i drafod dichonoldeb trosglwyddiadau.