Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Isadeiledd gwyrdd newydd yn dod â bywyd newydd i Ganolfan Siopa Bwcle
Published: 20/02/2026
Bydd Canolfan Siopa Bwcle yn dod yn fwy gwyrdd, yn fwy croesawgar ac yn fwy lliwgar gyda hyn, diolch i gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a gweledigaeth grwp cymunedol lleol, Cwmni Buddiannau Cymunedol Shelby鈥檚 Place.
Mae鈥檙 cyllid sydd wedi鈥檌 sicrhau gan d卯m Adfywio Cyngor Sir y Fflint, fel rhan o鈥檌 raglen fuddsoddi mewn canol trefi 鈥 Sir y Fflint, wedi arwain at brynu 10 o dybiau blodau mawr o ansawdd uchel gan gwmni lleol R & G Landscaping, gan gefnogi sgiliau lleol a鈥檙 economi rhanbarthol.
Mae鈥檙 tybiau wedi鈥檜 llenwi ag amrywiaeth o blanhigion, hadau a bylbiau o Ganolfan Arddio Daleside ym Mhenarl芒g, gan gryfhau cadwyni cyflenwi lleol ymhellach a sicrhau diddordeb tymhorol drwy gydol y flwyddyn.
Yn ogystal 芒 gwella edrychiad y ganolfan siopa, mae鈥檙 prosiect yn rhoi pwyslais cryf ar ymgysylltu 芒'r gymuned a chynaliadwyedd hirdymor.
Cafodd y tybiau blodau eu llenwi ddydd Iau 12 Chwefror a byddant yn cael eu cynnal gan Shelby鈥檚 Place, busnes lleol yng Nghanolfan Siopa Bwcle ynghyd 芒 chymorth gan grwp brwdfrydig o wirfoddolwyr sy鈥檔 barod iawn i lanhau a gwyrddu canol tref Bwcle.
Mae鈥檙 fenter ar y cyd hon yn dangos sut mae buddsoddiad wedi鈥檌 dargedu drwy鈥檙 Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gallu cyflawni gwelliannau amgylcheddol, cefnogi busnesau lleol a dod 芒 chymunedau at ei gilydd, oll gan greu canol tref gwyrddach a harddach ar gyfer preswylwyr, siopwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Meddai Sharon Beck: 鈥淩ydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gofod diogel a chyfeillgar i鈥檙 gymuned lle mae pawb yn gallu cael mynediad at gefnogaeth.
"Rydym ni鈥檔 darparu grwpiau a gweithgareddau cynaliadwy, ac yn hyrwyddo balchder yn ein cymuned lle mae pawb yn gallu cymryd rhan, mae 鈥榥a swydd i bawb.鈥
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol Shelby鈥檚 Place yn ganolbwynt cymunedol ac yn fenter gymdeithasol. Mae鈥檔 helpu i ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned ym Mwcle, drwy hyrwyddo talentau lleol, cynnig lle croesawgar i breswylwyr ac ymwelwyr a chyfrannu at weithgareddau a mentrau cymunedol. Mae eu grwp gwirfoddoli yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir ymgysylltu 芒 gweithgareddau garddio gwobrwyol, gan gefnogi lles, cysylltiadau cymdeithasol a balchder bro. Os hoffech chi neu rywun rydych chi鈥檔 ei adnabod ymuno 芒鈥檙 grwp yma, cysylltwch 芒 Sharon Beck o Shaz鈥檚 Shabby Chic/Shelby鈥檚 Place ar 01244 267499.
听