Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tanysgrifiad gwastraff gardd: sticeri newydd i gefnogi casgliadau dibynadwy
Published: 18/02/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud newidiadau i鈥檞 wasanaeth casglu gwastraff gardd gyfer 2026/27, er mwyn helpu i sicrhau bod casgliadau yn effeithlon ac yn ddibynadwy ar gyfer preswylwyr.
Bydd pob cwsmer sy鈥檔 tanysgrifio i鈥檙 gwasanaeth yn derbyn sticer melyn newydd ar gyfer eu bin. Ni fydd y sticer RFID presennol yn ddilys mwyach, ac ni fyddant yn cael eu defnyddio ar gyfer casgliadau yn ystod y cyfnod gwasanaeth newydd.
Unwaith mae preswylydd wedi tanysgrifio鈥檔 llwyddiannus, byddant yn derbyn pecyn gyda sticer a chyfarwyddiadau o fewn 10 diwrnod. Gofynnir bod preswylwyr yn rhoi鈥檙 sticer melyn newydd ar eu bin gwastraff gardd yn unol 芒鈥檙 cyfarwyddiadau, er mwyn sicrhau bod eu bin yn parhau i gael ei gasglu.
Bydd y newid yn helpu criwiau i nodi鈥檙 biniau sydd wedi tanysgrifio鈥檔 gyflym ac yn glir, gan gefnogi casgliadau di-dor, a lleihau鈥檙 risg o fethu casgliadau.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: 鈥淢ae鈥檙 newid hwn yn bwriadu gwneud y gwasanaeth gwastraff gardd mor ddibynadwy ac yn effeithlon 芒 phosib ar gyfer preswylwyr. Bydd symud i system sticer newydd yn helpu ein criwiau i adnabod biniau鈥檔 haws, a symleiddio鈥檙 casgliadau.
鈥淩ydym yn annog unrhyw un sydd eisiau manteisio ar y gwasanaeth i danysgrifio mewn da bryd, fel eu bod yn derbyn eu sticer newydd cyn i鈥檙 cyfnod casglu gychwyn.鈥
Ynghyd 芒鈥檙 casgliadau arferol bob pythefnos am naw mis o鈥檙 flwyddyn, bydd y gwasanaeth nawr yn cynnwys casgliadau misol ym mis Rhagfyr 2026, mis Ionawr 2027 a mis Chwefror 2027.
Bydd dyddiadau casglu biniau brown ond yn ymddangos ar y porth 鈥榞wirio eich diwrnod biniau鈥 ar gyfer preswylwyr gyda thanysgrifiad gweithredol, a dalwyd amdano.
Drwy danysgrifio, byddwch yn ein helpu ni i droi gwastraff gardd yn rhywbeth gwerthfawr. Yn hytrach na鈥檌 anfon i safle tirlenwi, neu i gael ei losgi, bydd y Cyngor yn ei drawsnewid i fod yn gyflyrydd pridd sy鈥檔 llawn maeth yn safle Compostio Maes Glas. Yna, mae鈥檙 compost ar gael, yn rhad ac am ddim, i breswylwyr ym mhump o鈥檔 Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
Cost flynyddol y tanysgrifiad gwastraff gardd ar gyfer 2026 yw 拢38 (beth bynnag fo dyddiad y taliad). Gallwch dalu:
- Dros y ff么n: 01352 701234