Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant dwbl ar gyfer tîm tad a merch Cyngor Sir y Fflint
Published: 12/02/2026
Mae tad a merch o Sir y Fflint yn dathlu ar 么l ennill prif anrhydedd yng Ngwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru.
Enwyd Lola Morris, Gweithiwr Chwarae o fewn t卯m Datblygu Chwarae Cyngor Sir y Fflint yn Brentis Gofal Plant y Flwyddyn yn y seremoni yn Venue Cymru, Llandudno.
Yn ei chefnogi, oedd ei thad - a鈥檌 rheolwr - Darren Morris, Prif Swyddog Datblygu Chwarae, a enillodd Cyflogwr Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn ei hun.
Mae鈥檙 gwobrau yn cael eu cynnal gan Busnes@LlandrilloMenai bob blwyddyn, ac yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau. Maent yn dathlu cyraeddiadau鈥檙 sawl sy鈥檔 datblygu eu gyrfaoedd drwy ddysgu yn y gweithle a phrentisiaethau, yn ogystal 芒鈥檙 cyflogwyr sy鈥檔 eu cefnogi.
Mae Lola, sydd wedi cwblhau ei Lefel 2 Gwaith Chwarae yn ddiweddar, nawr yn gweithio tuag at Lefel 3, a chafodd ei chydnabod am ei hymrwymiad i ddysgu, a鈥檌 gallu i gymhwyso gwybodaeth newydd i鈥檞 hymarfer.
Meddai darparwr hyfforddiant Lola, Achieve More Training, am ei henwebiad: 鈥淢ae ei synnwyr o bwrpas, parodrwydd i ddysgu, ac ymrwymiad i greu cyfleoedd chwarae cadarnhaol ac ystyrlon yn ei gwneud yn fodel r么l ysbrydoledig ar gyfer prentisiaid eraill."
Yn y cyfamser, cafodd y t卯m Datblygu Chware, a arweinir gan Darren, ei gymeradwyo am greu diwylliant lle mae prentisiaid yn teimlo鈥檔 ddiogel i fod yn onest am heriau, yn gwthio eu hunain, ac yn magu hyder.
Meddai Darren: 鈥淩oeddwn i鈥檔 teimlo鈥檔 hynod falch cael fy enwebu am Wobr Cyflogwr y Flwyddyn, ond roedd ennill yn anhygoel.
鈥淢ae鈥檔 gydnabyddiaeth o鈥檙 gefnogaeth, canllawiau, a鈥檙 cyfleoedd 鈥榬ydym yn buddsoddi ynddynt er mwyn datblygu ein staff, gan wneud y mwyaf o lwybrau prentisiaethau gyda darparwyr megis Achieve More Training.
鈥淢ae cael enwebiad ar y cyd gyda Lola yn gwneud popeth yn fwy arbennig.
鈥淩wy鈥檔 falch iawn o鈥檌 chyraeddiadau, gan ennill Gwobr Prentis Gofal Plant y Flwyddyn, fel yr wyf o gyraeddiadau bob aelod o鈥檔 t卯m.鈥
Ychwanegodd Lola: Hoffwn ddweud diolch yn fawr i鈥檓 haseswr Chloe Gibson a helpodd fi i gwblhau fy mhrentisiaeth, ac am roi fy enw ymlaen ar gyfer y wobr hon, a hoffwn ddweud diolch i dad, a fy rheolwr llinell, Darren Morris, sydd wedi fy annog i ddilyn y brentisiaeth.聽 Mae dathlu鈥檙 cyflawniad hwn gyda鈥檔 gilydd yn ei wneud llawer mwy ystyrlon.鈥
Mae Busnes@LlandrilloMenai yn darparu cyrsiau dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau a hyfforddiant proffesiynol gyda Grwp Llandrillo Menai.