Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobr Genedlaethol i Wasanaethau Profedigaeth Sir y Fflint
Published: 09/02/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael ei gydnabod gyda gwobr genedlaethol am ei Wasanaethau Profedigaeth am yr ail flwyddyn yn olynol.
Cafodd y Cyngor ei enwi fel y perfformiwr gorau yng nghategori Gwasanaethau Mynwentydd ac Amlosgfeydd yng ngwobrau Rhwydwaith Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE).
Caiff yr enillwyr eu penderfynu yn seiliedig ar ddata sy鈥檔 cael ei rannu gyda Chymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus gan Awdurdodau Lleol ar draws y DU, sy鈥檔 ymdrin 芒 phopeth o reolaeth ariannol, staff a rheolaeth weithredol, i bolis茂au ac achrediadau.
Dyma鈥檙 ail flwyddyn yn olynol y mae Cyngor Sir y Fflint wedi dod i鈥檙 brig yng nghategori Gwasanaethau Mynwentydd ac Amlosgfeydd, allan o tua 50 o Awdurdodau Lleol cymwys, ar 么l cael ei gydnabod yn y gorffennol fel y gwasanaeth sydd wedi gwella fwyaf.
Mae鈥檙 gydnabyddiaeth yma yn golygu bod Awdurdodau Lleol eraill yn defnyddio perfformiad y Cyngor fel enghraifft i feincnodi yn ei erbyn.
Mae Gwasanaethau Profedigaeth Sir y Fflint yn gyfrifol am reoli 15 Mynwent ac wyth mynwent Eglwys gae毛dig ledled y Sir, yn cynnwys pob agwedd o waith cynnal a chadw tir, ynghyd 芒 thua 450 o gladdedigaethau bob blwyddyn.聽Mae鈥檙 t卯m yn cynnal Rhaglen Diogelwch Cofebion ar tua 20,000 o gofebion yn flynyddol ac yn cynnal tua 25 o Angladdau Iechyd Cyhoeddus bob blwyddyn.
Cafodd enillwyr Gwobrau Rhwydwaith Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus eu cyhoeddi mewn seremoni yn Blackpool.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: 鈥淩ydym ni鈥檔 eithriadol o falch o鈥檔 t卯m Gwasanaethau Profedigaeth am eu gwaith caled a鈥檜 hymroddiad i gyflwyno gwasanaeth o鈥檙 radd flaenaf.
鈥淢ae鈥檙 t卯m yn darparu gwasanaeth hollbwysig i bobl Sir y Fflint ar adegau sydd ymysg y rhai anoddaf yn eu bywyd, ac maen nhw鈥檔 gwneud hynny gyda phroffesiynoliaeth a thrugaredd.
鈥淢ae鈥檙 ffaith bod eu hymdrechion wedi cael eu cydnabod unwaith eto yn brawf o鈥檙 safonau uchel maent yn eu cyflawni bob dydd.鈥
Corff nid-er-elw ydi Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus sydd yn hyrwyddo rhagoriaeth wrth gyflawni gwasanaethau rheng flaen i gymunedau lleol ar draws y DU. Mae鈥檔 gweithio gyda mwy na 300 o Awdurdodau Lleol.