Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Nwyddau anghyfreithlon wedi'u hatafaelu o siopau Sir y Fflint
Published: 29/01/2026
Mae sigar茅ts, tybaco a f锚ps anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu mewn cyrchoedd mewn dwy siop yn Sir y Fflint.
Cynhaliodd Swyddogion Safonau Masnach o Gyngor Sir y Fflint ymgyrch ar y cyd lwyddiannus gyda鈥檙 gwasanaeth Gorfodi Mewnfudo ar y safle yn y Fflint a Threffynnon.
Nodwyd cynhyrchion anghyfreithlon yn y ddwy siop, a chafodd y rhain eu targedu o ganlyniad i wybodaeth a chwynion.
Yn y Fflint, atafaelwyd 104 pecyn o sigar茅ts ffug a 16 cwdyn o dybaco rholio 芒 llaw ffug, ynghyd 芒 nifer o sigar茅ts defnydd untro tafladwy anghyfreithlon.
Atafaelwyd 68 pecyn arall o sigar茅ts ffug a 30 cwdyn o dybaco rholio 芒 llaw ffug o'r siop yn Nhreffynnon. Amcangyfrifir mai cyfanswm gwerth y cynhyrchion a atafaelwyd yn y ddau gyrch oedd 拢1,370.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: 鈥淢ae鈥檙 ymgyrch lwyddiannus ddiweddaraf hon yn dangos ein hymrwymiad parhaus i amddiffyn ein trigolion drwy fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 math hwn o weithgarwch anghyfreithlon.
鈥淢ae gwerthu cynhyrchion tybaco a f锚ps anghyfreithlon yn peri risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, gan nad ydyn nhw'n destun yr un gwiriadau diogelwch 芒 chynhyrchion dilys.
鈥淢ae hefyd yn tanseilio masnach busnesau lleol cyfreithlon, ac yn aml mae'n gysylltiedig ag achosion o droseddu cyfundrefnol ehangach.
鈥淏yddwn yn parhau i weithio鈥檔 agos gyda sefydliadau partner i roi stop ar weithgarwch o鈥檙 fath a chymryd camau gweithredu priodol pellach lle bo modd.鈥
Anogir preswylwyr i adrodd am werthiannau anghyfreithlon honedig i Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint, trwy anfon e-bost at trading.standards@flintshire.gov.uk