天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn gwella鈥檙 gefnogaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Published: 23/01/2026

Mae aelodau'r Cabinet yn cynnig buddsoddiad sylweddol o 拢1.8 miliwn i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn dilyn adborth gan ysgolion ledled Sir y Fflint.

Bydd y cynnig yn gweld arbedion sy'n deillio o niferoedd disgyblion sy'n gostwng yn cael eu hailfuddsoddi'n uniongyrchol mewn darpariaeth ADY, gan gynyddu'r cyllid sydd ar gael i ysgolion yn 2026/27 o fwy na 拢1.5 miliwn. Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu'n syth i gyllidebau ysgolion, gan roi mwy o hyblygrwydd i benaethiaid ddiwallu anghenion eu dysgwyr.

Yn ogystal, mae'r cyngor yn cynnig ymrwymo 拢300,000 i gefnogi dwy uned ADY, gan gryfhau ymhellach y ddarpariaeth arbenigol a sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid: 鈥淩ydym wedi gwrando鈥檔 ofalus iawn ar yr hyn y mae penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion wedi bod yn ei ddweud wrthym am yr heriau gwirioneddol y maent yn eu hwynebu wrth gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

鈥淢ae鈥檙 Cabinet yn deall y pwysau ar gyllidebau ysgolion a鈥檙 galw cynyddol am ddarpariaeth ADY, a dyna pam rydym wedi penderfynu ail-fuddsoddi arbedion yn uniongyrchol yn yr ysgolion. Drwy ddosbarthu鈥檙 cyllid hwn yn syth ymysg cyllidebau ysgolion, rydym yn ymateb i鈥檙 hyn y mae ysgolion wedi gofyn amdano ac yn sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi lle bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ddisgyblion.鈥�

Bydd y cynnig yn cael ei drafod ym Mhwyllgor Craffu Trosolwg Addysg, Ieuenctid a Diwylliant y cyngor yr wythnos nesaf cyn mynd gerbron y Cabinet i'w gymeradwyo'n derfynol.