天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trosglwyddo canolbwynt cymorth newydd i Gyngor Sir y Fflint ym mis Chwefror

Published: 20/01/2026

Bydd canolbwynt cymunedol pwrpasol newydd ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion iechyd meddwl yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Sir y Fflint fis nesaf.

Mae cwblhau cyfleuster Coed y Ddraig yn Yr Wyddgrug yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer y prosiect gwerth miliynau o bunnoedd, sy鈥檔 anelu i drawsnewid cymorth dydd a chyfleoedd gwaith yn Sir y Fflint.

Bydd y cyfleuster newydd yn dod 芒 sawl gwasanaeth presennol ynghyd dan un to ac yn darparu lle ar gyfer rhai newydd.

Bydd Coed y Ddraig yn cael ei weithredu o ddydd i ddydd gan Hft. Bydd gwasanaethau sy鈥檔 cael eu cynnig ar hyn o bryd gan Hft ar safle Tri Ffordd yn Bretton yn cael eu hadleoli i鈥檙 safle newydd, ynghyd 芒 datblygu gwasanaeth cymorth awtistiaeth newydd.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) hefyd yn defnyddio鈥檙 gofod i barhau 芒 darpariaeth gwasanaeth cyfredol. Mae lle pwrpasol ar gael i鈥檞 ddefnyddio gan y bwrdd iechyd a fydd yn galluogi ymyriadau therapiwtig gan Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi. Mae鈥檙 gofod hwn hefyd yn cynnig cyfle i ehangu鈥檙 ystod o leoliadau ar gyfer ymyriad clinigol priodol gan ystod ehangach o dimau clinigol.

Mae鈥檙 datblygiad, a gwblhawyd gan MPH Construction, wedi bod yn bosibl diolch i gyllid cyfalaf o 拢2.7 miliwn gan Gyngor Sir y Fflint a 拢2.9 miliwn o Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Cafodd y prosiect, a oedd i fod i gael ei gwblhau yn 2025 yn wreiddiol, ei oedi oherwydd sefydlu cyflenwad ynni ar y safle a oedd tu hwnt i reolaeth y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles:聽 鈥淢ae鈥檙 broses drosglwyddo sydd ar fin digwydd gyda chyfleuster Coed y Ddraig yn nodi carreg filltir fawr yn y prosiect pwysig hwn, sy鈥檔 cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol gwasanaethau cymorth yn Sir y Fflint.

鈥淏ydd y cyfleuster pwrpasol hwn yn caniat谩u i ni ddod 芒 gwasanaethau ynghyd o dan un to, ehangu capasiti, a darparu cymorth o safon uchel i oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion iechyd meddwl.鈥

Dywedodd Clair Johnson, Rheolwr Cyfleoedd Dydd, Hft: 鈥淩ydym yn falch iawn o weithredu Coed y Ddraig mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae鈥檙 canolbwynt cymunedol pwrpasol hwn yn cynrychioli cam mawr ymlaen o ran darparu cyfleoedd o safon sy鈥檔 canolbwyntio ar yr unigolyn yn hft.

鈥淭rwy ddod 芒 gwasanaethau ynghyd mewn un gofod modern a chynhwysol, bydd Coed y Ddraig yn cynnig mwy o ddewis ac yn parhau i rymuso pobl i feithrin sgiliau, hyder ac annibyniaeth yn eu cymuned leol. Gan weithio ochr yn ochr 芒 grwpiau cymunedol eraill rydym yn gobeithio darparu adnodd cymunedol gwerthfawr.鈥

Dywedodd Nesta McCluskey, Cyfarwyddwr Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cymunedol Iechyd Integredig y Dwyrain BIPBC:聽 鈥淩ydym yn falch iawn o fod yn bartner Cyngor Sir y Fflint yn natblygiad Coed y Ddraig. Bydd y gofod pwrpasol hwn yn caniat谩u ar gyfer mwy o waith ar y cyd, gydag ystod o therap茂au ar gael i鈥檙 cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

鈥淢ae Coed y Ddraig yn enghraifft ardderchog arall o ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i weithio mewn partneriaeth, i ddarparu gwasanaethau modern sy鈥檔 addas ar gyfer y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at symud i鈥檙 adeilad newydd a chroesawu ein defnyddwyr gwasanaeth cyntaf i elwa ohono.鈥

Dywedodd Rhys Edwards, Rheolwr Masnachol MPH Construction:聽 鈥淔el contractwr yn Sir y Fflint, rydym yn falch iawn o ddarparu Coed y Ddraig ar gyfer y gymuned leol. Gan weithio鈥檔 agos gyda Chyngor Sir y Fflint a鈥檔 partneriaid prosiect lleol, mae hwn wedi bod yn brosiect cydweithredol go iawn o鈥檙 dechrau i鈥檙 diwedd, yn seiliedig ar nodau cyffredin a pherthynas gref.

鈥淢ae鈥檔 rhoi boddhad mawr i ni rwan i gyflwyno cyfleuster pwrpasol o safon sy鈥檔 adlewyrchu anghenion y gymuned a bydd yn darparu manteision hirdymor, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol, go iawn i fywydau pobl am flynyddoedd i ddod.鈥

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: 鈥淢ae鈥檔 wych bod datblygiad Coed y Ddraig ar fin cael ei drosglwyddo i Gyngor Sir y Fflint. Bydd pobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion iechyd meddwl yn gallu cael mynediad at ystod o wasanaethau cymorth, therap茂au ac ymyraethau clinigol yn y ganolfan bwrpasol hon.

鈥淢ae鈥檙 prosiect yn enghraifft wych o鈥檙 hyn y gellir ei gyflawni pan mae sefydliadau鈥檔 gweithio gyda鈥檌 gilydd. Rwyf yn falch iawn bod ein buddsoddiad 拢2.9 miliwn wedi helpu i sicrhau鈥檙 modelau gofal integredig, newydd ar gyfer Sir y Fflint, ac rydym yn eu blaenoriaethu ar draws Cymru.鈥