Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith caled timau graeanu yn cadw Sir y Fflint i fynd
Published: 16/01/2026
Mae timau priffyrdd Sir y Fflint wedi bod yn gweithio鈥檔 ddi-baid i gadw ffyrdd yn ddiogel ac yn hygyrch yn ystod y tywydd gaeafol a brofwyd yn ystod y bythefnos ddiwethaf.
Gyda dechrau rhewllyd i鈥檙 Flwyddyn Newydd, aeth cerbydau graeanu Sir y Fflint ar waith yn lledaenu miloedd o dunelli o raean ar hyd rhwydwaith ffyrdd y sir, gan ymateb i broblemau yn ymwneud 芒鈥檙 tywydd a lleihau amhariad.
Roedd timau鈥檔 gweithio 24 awr y dydd yn ystod y digwyddiad o dywydd parhaus, gan sicrhau eu bod yn graeanu prif lwybrau, a oedd wedi鈥檜 trin 34 gwaith dros gyfnod o 11 diwrnod.
Teithiodd y cerbydau graeanu bron i 12,000 o filltiroedd rhyngddynt ac聽wedi lledaenu dros 2,600 tunnell o halen, gydag amser staff ar y ffyrdd yn dod i gyfanswm o 1,900 awr.
Roedd eu hymdrechion yn golygu nad oedd amhariad i鈥檙 rhwydwaith ffyrdd, er y tymereddau rhewllyd a鈥檙 eira a ddaeth gyda Storm Goretti.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd, Asedau a gwarchod y Cyhoedd: 鈥淢ae gwaith caled timau鈥檙 priffyrdd wedi cadw Sir y Fflint i symud yn ystod cyfnod heriol o dywydd garw.
鈥淢ae cadw ein ffyrdd yn hygyrch yn hollbwysig i fusnesau lleol allu aros ar agor, gyda theithwyr yn teithio i, ac o鈥檙 gwaith, plant yn mynd i鈥檙 ysgol, a sicrhau bod cerbydau鈥檙 gwasanaethau brys yn gallu mynd at y bobl sydd eu hangen heb oedi.
Hoffwn ddiolch i鈥檔 criwiau am eu hymrwymiad, gan weithio o amgylch y cloc i leihau amhariad a chadw preswylwyr yn saff yn ystod amodau rhewllyd.鈥
Bydd y cyngor yn parhau i fonitro'r amodau dros y penwythnos ac i mewn i'r wythnos nesaf.