Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad 鈥� rhwystrau'r rhwydwaith beicio lleol
Published: 14/01/2026
听
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal adolygiad o rwystrau ar draws y rhwydwaith beicio lleol i sicrhau bod llwybrau yn ddiogel, yn hygyrch ac yn gynhwysol i鈥檙 holl ddefnyddwyr.
听
Mae鈥檙 adolygiad yn rhan o Asesiad o Effaith Cynhwysol y Cyngor, sy鈥檔 gwerthuso pob rhwystr o ran hygyrchedd, diogelwch, a chydymffurfiaeth 芒 Chanllawiau Deddf Teithio Llesol (2021).
听
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i greu rhwydwaith beicio sy鈥檔 ddiogel, yn hygyrch ac yn groesawgar i鈥檙 holl ddefnyddwyr. Er eu bod weithiau鈥檔 angenrheidiol ar gyfer diogelwch a rheoli mynediad, gall rhwystrau gyflwyno heriau i rai defnyddwyr, gan gynnwys pobl sydd ag anableddau, defnyddwyr cymhorthion symudedd, teuluoedd sydd 芒 phramiau, defnyddwyr beiciau a addaswyd, a beicwyr llai hyderus.听 Rydym eisiau ymgynghori鈥檔 uniongyrchol 芒 grwpiau defnyddwyr arbenigol a chynrychiolwyr cymunedau diamddiffyn i sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn cael eu harwain gan brofiadau bywyd a safbwyntiau ymarferol a byddwn yn annog cymaint 芒 phosib o bobl i gymryd rhan a chael dweud eu dweud.听
听
Mae pob rhwystr yn cael ei asesu鈥檔 unigol, a gall argymhellion gynnwys:
听
鈥� Tynnu鈥檙 rhwystr os nad oes bellach ei angen
鈥� Ei gadw ble mae鈥檙 dyluniad presennol yn angenrheidiol a chymesur
鈥� Addasu i wella hygyrchedd a chydymffurfiaeth gyda Chanllawiau Ddeddf Teithio Llesol
听
Cyn Nadolig 2024 cynhaliwyd sesiynau galw heibio cyhoeddus cychwynnol i roi cyfle i drigolion siarad yn uniongyrchol gyda swyddogion y Cyngor, rhoi sylw ar leoliadau鈥檙 rhwystrau, rhannu a thrafod profiadau a heriau ymarferol a wynebir wrth ddefnyddio鈥檙 rhwydwaith beicio.听 听
听
Mae dwy sesiwn galw heibio pellach wedi cael eu trefnu:听
听
Dyddiad: 23 Ionawr 2026
Amser: 10am tan 4pm
Lleoliad: Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Chester Road West, Queensferry, Sir y Fflint, CH5 1SA听
听
Dyddiad: 26 Ionawr 2026
Amser: 10am - 4pm
Lleoliad: Sir y Fflint yn Cysylltu, Hen Neuadd y Dref, Heol Fawr, Treffynnon, CH8 7TD听
听
Mae ymgynghoriad ar-lein hefyd ar gael ar .听
听
Er bod yr ymgynghoriad yn darparu cyfle i bobl gael dweud eu dweud ar gyfanswm o 79 o rwystrau gwahanol mewn amryw o leoliadau ar draws arfordir Sir y Fflint, dylech ond ddarparu adborth ar y rhwystrau y mae gennych ddiddordeb penodol ynddynt.听听
听
Er mwyn gwneud hyn yn haws mae鈥檙 ffurflenni adborth wedi cael eu rhannu i ardaloedd daearyddol ac mae ffotograff yn cyd-fynd gyda phob rhwystr er mwyn eu hadnabod yn haws.
听
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich adborth yw 5pm ar ddydd Gwener 30 Ionawr 2026.
听