Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arolygwyr Estyn yn canmol ysgol yn Sir y Fflint
Published: 09/01/2026
Mae ysgol gynradd yn Sir y Fflint yn dathlu ar 么l i Estyn ganmol ethos cryf yr ysgol, eu disgwyliadau uchel ac amgylchedd ddysgu feithringar.
Gwelodd yr arolygwyr a ymwelodd ag Ysgol y Llan, Chwitffordd, bod y disgyblion yn teimlo鈥檔 ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a鈥檜 bod yn barod i ddysgu, ac yn dangos ymddygiad rhagorol yn gyson, gydag agweddau cadarnhaol a brwdfrydedd tuag at ddysgu.
Cafodd yr addysgu ei ganmol am fod yn ddiddorol ac yn briodol o ran herio, gyda chwestiynu effeithiol ac adborth sy鈥檔 cefnogi cynnydd disgyblion. Cafodd amgylcheddau dysgu鈥檙 ysgol, gan gynnwys yr ardaloedd awyr agored eu cydnabod am hyrwyddo annibyniaeth a chwilfrydedd.
Canmolodd Estyn ganolbwynt cryf yr ysgol tuag at les a chynhwysiant, ynghyd 芒鈥檌 bartneriaethau cadarnhaol gyda rheini, yr eglwys leol a鈥檙 gymuned ehangach.
Dywedodd y Pennaeth, Mr Tomos Williams: 鈥淩wy鈥檔 hynod o falch o ganlyniad yr arolwg Estyn diweddar ar gyfer Ysgol y Llan. Mae鈥檙 adroddiad yn adlewyrchu'r gymuned ysgol gynnes, ofalgar ac uchelgeisiol yr ydym yn gweithio鈥檔 galed i鈥檞 feithrin bob dydd.
鈥淵r hyn a amlygwyd fwyaf yn ystod yr arolwg oedd ein disgyblion. Roedd eu hymddygiad, cwrteisi ac agwedd gadarnhaol i ddysgu yn rhagorol, ac roeddent wedi cynrychioli ein hysgol gyda hyder a balchder.
鈥淩oedd yr arolygwyr yn cydnabod y disgwyliadau uchel sydd gennym ar gyfer holl ddysgwyr, ynghyd 芒鈥檔 canolbwynt cryf ar les, cynhwysiant a phrofiadau dysgu ystyrlon.
鈥淩oedd yr arolwg hwn yn ymdrech t卯m. Hoffwn ddiolch i鈥檔 staff ymroddgar am eu hymrwymiad a phroffesiynoldeb, i鈥檔 llywodraethwyr am eu cefnogaeth barhaus a her, a鈥檔 rhieni, gofalwyr a鈥檙 gymuned ehangach am weithio mor gadarnhaol gyda鈥檙 ysgol. Mae wir yn deulu arbennig ac rwy鈥檔 caru鈥檙 gwaith rydym yn ei wneud yma.
鈥淩ydym yn falch o鈥檙 adroddiad hwn, ond rydym yn parhau i ymroi i adeiladu ar y cryfderau hyn wrth i ni barhau i ddarparu鈥檙 addysg gorau bosibl ar gyfer ein plant.鈥