天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fêps, tybaco ac alcohol anghyfreithlon wedi鈥檜 hatafaelu mewn ymgyrch safonau masnach

Published: 09/01/2026

Mae f锚ps a thybaco anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu mewn cyrch mewn siop gyfleustra yn yr Wyddgrug.

Cafodd y siop ei dargedu mewn ymgyrch ar y cyd gan Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru a鈥檙 Gwasanaethau Mewnfudo.

Cafodd swm sylweddol o dybaco anghyfreithlon ei atafaelu ynghyd 芒 f锚ps anghyfreithlon ac alcohol ffug tybiedig.

Cyflawnwyd yr ymgyrch fel rhan o fenter genedlaethol o鈥檙 enw Ymgyrch CeCe, ymgyrch gorfodi gyda鈥檙 nod o darfu ar y cyflenwad o dybaco anghyfreithlon a chynnyrch cysylltiedig, a all beri risgiau difrifol i iechyd y cyhoedd a thanseilio busnesau lleol cyfreithlon.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: 鈥淣id yw gwerthu tybaco a f锚ps anghyfreithlon ac alcohol ffug yn drosedd heb ddioddefwyr. Yn aml mae鈥檙 cynnyrch hyn yn osgoi gwiriadau diogelwch, sy鈥檔 rhoi iechyd pobl mewn risg.

鈥淢ae gwerthiant anghyfreithlon y cynnyrch hyn hefyd yn tynnu arian i ffwrdd oddi ar fasnachwyr lleol gonest sy鈥檔 gweithredu o fewn y gyfraith, ac yn aml mae鈥檔 gysylltiedig 芒 gweithgarwch troseddol ehangach.

鈥淢ae鈥檙 ymgyrch hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i weithio gyda phartneriaid er mwyn mynd i鈥檙 afael 芒 masnachu anghyfreithlon a diogelu ein cymunedau. Ni oedwn i weithredu pan fydd pryderon yn cael eu codi.鈥

Anogir preswylwyr i adrodd am werthiannau anghyfreithlon honedig i Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint, trwy anfon e-bost at trading.standards@flintshire.gov.uk