Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwelliannau diogelwch a theithio llesol i gylchfannau yn Ewlo
Published: 08/01/2026
Bydd gwaith i gyflawni gwelliannau diogelwch a theithio llesol i gylchfannau yn Ewlo yn dechrau鈥檙 mis hwn.
Bydd croesfannau newydd i gerddwyr yn cael eu cyflwyno ar y ffyrdd ymuno ac ymadael ger Cylchfan Ewlo, ynghyd 芒 chroesfannau ychwanegol ger Cylchfan Dewi Sant, gan wella diogelwch a hygyrchedd yn sylweddol i gerddwyr ar draws yr ardaloedd prysur hyn.
Yn ogystal 芒鈥檙 croesfannau newydd, bydd troedffyrdd yn cael eu lledu a鈥檜 gwella, gan ddarparu mwy o le ac amgylchedd gwell i gerddwyr a phobl sy鈥檔 defnyddio llwybrau teithio llesol.
Mae鈥檙 cynllun, sydd wedi鈥檌 ddylunio ar y cyd ag Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, wedi鈥檌 ariannu鈥檔 rhannol gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Mae鈥檙 gwaith wedi鈥檌 drefnu i ddechrau ar 25 Ionawr 2026 a disgwylir y bydd yn para tan fis Mai 2026.
Yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd amhariad anochel i draffig a siwrneiau lleol. Bydd mesurau rheoli traffig ar waith drwy gydol cyfnod y gwaith i gynnal diogelwch ar gyfer defnyddwyr y ffyrdd, cerddwyr, a鈥檙 gweithlu. Anogir holl ddefnyddwyr y ffyrdd i gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw a chaniat谩u amser ychwanegol ar gyfer teithio drwy鈥檙 ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: 鈥淢ae鈥檙 cynllun hwn yn cynrychioli buddsoddiad pwysig mewn teithio llesol a diogelwch cerddwyr wrth y cylchfannau prysur hyn yn Ewlo.
鈥淩ydym yn gwybod y bydd y gwaith yn achosi anghyfleustra tymor byr, ac rydym yn diolch i bawb am eu hamynedd wrth i鈥檙 gwelliannau hirdymor hyn gael eu gwneud.鈥
Bydd mwy o ddiweddariadau yn cael eu darparu wrth i鈥檙 gwaith ddatblygu.