Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosiectau isadeiledd gwyrdd a chludiant ar y gweill yn Shotton
Published: 23/12/2025
Bydd Shotton yn elwa o raglen fawr o welliannau cludiant a buddsoddiad mewn isadeiledd gwyrdd, er mwyn gwneud y dref yn fwy diogel, yn fwy gwyrdd ac yn fwy hygyrch.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau鈥檙 gwaith ar y prosiectau yn y flwyddyn newydd, gan gyflawni cyfres o welliannau ar draws llwybrau cludiant allweddol a mannau cyhoeddus ledled y dref.
Bydd y cynllun cludiant a phriffyrdd yn dechrau鈥檔 fuan ym mis Ionawr ac mae disgwyl i鈥檙 gwaith bara hyd at 26 wythnos. Mae'n cynnwys gosod cysgodfannau bysiau newydd, cael gwared ar rwystrau diangen a chreu pocedi troi i'r dde pwrpasol mewn cyffyrdd allweddol ar Charmleys Lane, Chester Close, Nelson Street a Jubilee Street, gan helpu i wella llif traffig.聽
Mae gwelliannau wedi鈥檜 gwneud hefyd ar gyfer goleuadau stryd a goleuadau traffig, yn ogystal 芒 gosod meinciau, bolardiau a biniau newydd ar draws yr ardal.
Fel un o brif elfennau鈥檙 cynllun bydd gwaith yn cael ei wneud i roi wyneb newydd ar y briffordd ar y B5129, rhwng Shotton Lane a Brook Road.
Mae鈥檔 anochel y bydd rhywfaint o amhariad wrth geisio rheoli traffig ar y llwybr prysur hwn. Er mwyn lleihau hyn, bydd y Cyngor a鈥檌 gontractwyr yn rhoi blaenoriaeth i waith oddi ar y ffyrdd yng nghamau cynnar y prosiect. Bydd y dull hwn yn lleihau lefel a hyd y gwaith rheoli traffig sydd ei angen ar y B5129.
Cynghorir defnyddwyr ffyrdd i gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw a chaniat谩u amser ychwanegol ar gyfer teithio drwy鈥檙 ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: 鈥淢ae cynnal a chadw a gwella ein rhwydwaith cludiant a phriffyrdd yn Shotton yn hanfodol, er mwyn sicrhau bod pobl yn symud mewn modd diogel ac effeithlon.
鈥淏ydd y gwaith hwn yn mynd i鈥檙 afael 芒 mannau prysur ar lwybrau allweddol ac yn gwneud siwrneiau dyddiol yn fwy diogel ac yn gwneud pethau鈥檔 haws i ddefnyddwyr ffyrdd a cherddwyr.鈥
Yn y cyfamser, bydd prosiectau isadeiledd gwyrdd ym meysydd parcio Charmleys Lane ac Ash Grove a Gardd Goffa Henry Weale yn dechrau ar 12 Ionawr.
Mae鈥檙 mentrau hyn yn ffurfio rhan o waith ac ymrwymiad y Cyngor i Greu Lleoedd er mwyn gwella amgylcheddau lleol a lles cymunedol, a chefnogi dyfodol mwy cynaliadwy.
Bydd y prosiectau yn canolbwyntio ar ehangu mannau gwyrdd, gwella bioamrywiaeth, a chreu ardaloedd mwy hygyrch sy鈥檔 gyfoeth o natur ledled y dref. Maent yn cynrychioli buddsoddiad allweddol yng ngwydnwch amgylcheddol hirdymor Shotton ac ansawdd bywyd yno.
Mae'r datblygiadau hyn wedi bod yn bosibl trwy gyllid gan Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: 鈥淢ae鈥檙 prosiectau hyn yn nodi cam cyffrous ymlaen i Shotton.
鈥淭rwy fuddsoddi mewn mannau cyhoeddus mwy gwyrdd, nid yn unig yr ydym yn gwella鈥檙 amgylchedd heddiw ond hefyd yn creu manteision a fydd yn para ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.
鈥淩ydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU am ein galluogi i wireddu鈥檙 mentrau pwysig hyn.鈥
Bydd y prosiectau isadeiledd gwyrdd yn cynnwys gwelliannau i fannau gwyrdd cyhoeddus gan gynnwys gwaith plannu newydd, coed, ac ardaloedd sy鈥檔 gyfoeth o natur sydd wedi鈥檜 llunio i gynyddu bioamrywiaeth, gwella ansawdd aer a lleihau carbon.
Fe ychwanegir nodweddion amgylcheddol hefyd, sy鈥檔 canolbwyntio ar y gymuned, megis seddi newydd ac ardaloedd sydd wedi鈥檜 llunio ar gyfer lles.
Byddwn yn rhannu鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd y cynlluniau hyn.