Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn cyrraedd targed ailgylchu o 70% ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn
Published: 22/12/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint ar y trywydd cywir i gyrraedd targed ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 70% ar 么l cyflwyno nifer o newidiadau i鈥檞 wasanaeth, gan gynnwys newid i gasglu鈥檙 biniau duon bob tair wythnos.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod y targed wedi鈥檌 gyrraedd yn y ddau chwarter cyntaf yn 2025/26, sy鈥檔 welliant mawr ar y blynyddoedd diwethaf.
O 2021 i 2024, ni wnaeth y Cyngor gyrraedd y targed statudol blaenorol o 64%, a arweiniodd at y posibilrwydd o ddirwyon mawr am dorri rheolau. Yn 2024/25, pan godwyd y targed i 70%, 63% oedd cyfradd ailgylchu Sir y Fflint, sy鈥檔 golygu bod y sir wedi bod yn is na鈥檙 targed am bedair blynedd yn olynol.
Fe weithredodd y Cyngor i wella perfformiad ailgylchu drwy fabwysiadu Strategaeth Adnoddau a Gwastraff newydd ar gyfer 2024鈥2030, a oedd yn nodi sawl ymrwymiad i arwain Sir y Fflint tuag at economi gylchol, gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau a lleihau gwastraff. Er mwyn blaenoriaethu lleihau gwastraff a chynyddu cyfraddau ailgylchu, fe newidiwyd i gasglu gwastraff anailgylchadwy (bin du) bob tair wythnos ym mis Ebrill 2025 ar 么l cyfnod hir o ymgysylltu.
Mae mesurau eraill, gan gynnwys proses 鈥榞wastraff gweladwy鈥 a gyflwynwyd mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref eleni, a gwaith sy鈥檔 cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth am ailgylchu, hefyd wedi cael effaith arwyddocaol.
Wrth i ni symud tuag at economi gylchol, mae鈥檔 bwysig cydnabod pwysigrwydd ailgylchu i leihau allyriadau carbon a faint o wastraff sy鈥檔 cael ei anfon i鈥檞 losgi, a gwarchod ein hadnoddau naturiol drwy ailddefnyddio mwy o ddeunyddiau.
I gydnabod ymdrechion y Cyngor i wella perfformiad ailgylchu, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dileu鈥檙 ddirwy o 拢663,000 am fethu鈥檙 targed yn 2021/22, ond mae鈥檔 bosib鈥 iddynt hawlio鈥檙 dirwyon am y tair blynedd wedyn sydd werth mwy nag 拢1 miliwn.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: 鈥淢ae鈥檙 canlyniadau cynnar yma鈥檔 galonogol iawn ac yn dangos bod y newidiadau rydyn ni wedi鈥檜 gwneud yn cael yr effaith roeddem eisiau iddynt ei chael.
鈥淗offwn ddiolch i鈥檙 preswylwyr am yr ymdrech maen nhw wedi鈥檌 gwneud i ailgylchu mwy ac addasu i鈥檙 trefniadau newydd.
鈥淧wrpas ein Strategaeth Adnoddau a Gwastraff newydd yw gwneud beth sy鈥檔 iawn ar gyfer yr amgylchedd gan hefyd warchod y pwrs cyhoeddus ac osgoi rhagor o ddirwyon.鈥