Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mam a gollodd ei mab i hunanladdiad yn croesawu cynllun gweithredu newydd ar gyfer Sir y Fflint
Published: 22/12/2025
Mae mam o Sir y Fflint a gollodd ei mab i hunanladdiad wedi cefnogi cynlluniau ar gyfer cynllun gweithredu ar draws y sir i helpu i atal teuluoedd eraill rhag profi鈥檙 un tor-calon.
Cyngor Sir y Fflint fydd un o鈥檙 Awdurdodau Lleol cyntaf yng Nghymru i ddatblygu cynllun gweithredu, gan adeiladu ar Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, ar 么l i Gabinet y Cyngor gymeradwyo鈥檙 cynigion.
Roedd Louise Davies yn bresennol yn y cyfarfod. Cyflawnodd ei mab, Kai, hunanladdiad ym mis Hydref 2023, pan oedd ddim ond 22 oed.
Dywedodd Mrs Davies: 鈥淯n diwrnod aeth fy mab allan yn chwerthin a thynnu coes, yn fachgen hapus iawn, ac ni ddaeth adref.
鈥淢ae鈥檔 rhaid derbyn unrhyw beth y gellir ei wneud i atal un teulu rhag mynd trwy鈥檙 boen rydym ni鈥檔 ei brofi bob dydd oherwydd na ddaeth ein mab adref. Mae鈥檔 rhaid i rhywbeth newid.
鈥淲na i fyth wybod pam na ddaeth Kai adref, fyth, oherwydd nid oedd unrhyw arwyddion.
鈥淢ae鈥檔 golygu gymaint i mi sefyll o flaen pobl a chadw enw fy mab yn fyw, oherwydd dydw i fyth am i Kai gael ei anghofio. Rydw i eisiau helpu i atal un teulu, un plentyn, rhag profi鈥檙 boen y mae鈥檔 rhaid bod Kai yn ei deimlo, nad oeddem ni鈥檔 gwybod amdano.鈥
Pleidleisiodd y Cabinet yn unfrydol i gefnogi鈥檙 cynnig i greu cynllun gweithredu lleol i helpu i roi鈥檙 strategaeth genedlaethol newydd ar waith yn Sir y Fflint.
Bydd yn canolbwyntio ar leihau鈥檙 risg o hunanladdiad a hunan-niweidio, gan wella dealltwriaeth a chryfhau cefnogaeth ar gyfer unigolion, yn ogystal ag ar gyfer teuluoedd a chymunedau y mae hunanladdiad a hunan-niweidio yn effeithio arnynt.
Cyflwynwyd y cynnig gan y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant a鈥檙 Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai a Chymunedau, a datblygwyd yr adroddiad gan Katie Wilby, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant.
Dywedodd y Cynghorydd Banks: 鈥淩oedd clywed yn uniongyrchol gan rhywun sydd wedi profi colled mor ddwys yn bwerus iawn gan ein hatgoffa pam mae鈥檙 gwaith hwn yn bwysig.
鈥淭rwy gytuno i ddatblygu cynllun gweithredu ar draws y sir, rydym yn ymrwymo i wrando, dysgu a chydweithio 芒 phartneriaid a chymunedau i helpu i atal hunanladdiad a hunan-niweidio ac i sicrhau bod pobl sydd wedi鈥檜 heffeithio yn cael y ddealltwriaeth a鈥檙 gefnogaeth maen nhw鈥檔 ei haeddu.鈥