Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymeradwyaeth ffurfiol i Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Published: 19/12/2025
Mae Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam wedi鈥檌 gymeradwyo鈥檔 ffurfiol gan lywodraethau鈥檙 DU a Chymru 鈥 gan nodi dechrau rhaglen 10 mlynedd a fydd yn rhoi hwb i鈥檙 economi ranbarthol.
Bydd gwaith nawr yn dechrau o ddifrif, gyda rhaglen o grantiau, hyfforddiant, gwelliannau seilwaith a chymorth busnes yn helpu i ddatgloi cyfleoedd newydd i gyflogwyr, buddsoddwyr a chymunedau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a Chadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru, y corff strategol sy鈥檔 cydlynu鈥檙 gwaith: 鈥淭rwy ganolbwyntio ar Weithgynhyrchu Uwch, Arloesi, Sgiliau a Seilwaith, bydd y Parth Buddsoddi yn chwarae rhan hanfodol wrth yrru twf economaidd cynaliadwy.
鈥淏ydd yn helpu i greu swyddi o ansawdd uchel a chryfhau sefyllfa鈥檙 rhanbarth fel pwerdy ar gyfer diwydiant datblygedig yng Nghymru, ac rwy鈥檔 falch iawn bod llywodraethau鈥檙 DU a Chymru wedi rhoi eu cymeradwyaeth ffurfiol. Dyma ddechrau taith gyffrous iawn i Sir y Fflint a Wrecsam.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae hwn yn gam hynod gadarnhaol, a bydd y Parth Buddsoddi newydd yn rhoi llwyfan i ni ddenu buddsoddiad, syniadau a chyfleoedd newydd 鈥 cefnogi busnesau, creu swyddi ac ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf.
鈥淢ae gan Sir y Fflint a Wrecsam sylfaen anhygoel eisoes o wneuthurwyr arloesol, o鈥檙 radd flaenaf, a bydd y Parth Buddsoddi yn ein galluogi i adeiladu ar hyn a helpu i ddatgloi potensial enfawr y rhanbarth.鈥
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: 鈥淏ydd Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cyflawni ein Cenhadaeth Economaidd trwy ddenu buddsoddiad mawr, creu miloedd o swyddi sy鈥檔 talu鈥檔 dda, a chadarnhau enw da鈥檙 rhanbarth fel canolbwynt ar gyfer gweithgynhyrchu uwch ac arloesi.
鈥淢ae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn benllanw gwaith partneriaeth helaeth gan bartneriaid rhanbarthol a鈥檙 llywodraeth, ac mae鈥檔 gyfle enfawr i ddatgloi twf a sicrhau manteision sylweddol i fusnesau a chymunedau鈥檙 ardal.鈥
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Jo Stevens: 鈥淢ae Llywodraeth y DU yn buddsoddi 拢160 miliwn yn y Parth Buddsoddi hwn i gynyddu twf economaidd, ysgogi buddsoddiad preifat a chreu miloedd o swyddi newydd 芒 chyflogau da a fydd yn rhoi arian ym mhocedi pobl Gogledd Cymru.
鈥淢ae potensial enfawr ar gyfer twf ac ar gyfer adeiladu ar yr arbenigedd gweithgynhyrchu uwch sydd eisoes yn bodoli yn y rhan hon o Gymru. Rwy鈥檔 falch iawn ein bod yn symud ymlaen gyda鈥檙 rhaglen a fydd yn cael effaith drawsnewidiol i bobl sy鈥檔 byw ac yn gweithio yng ngogledd ddwyrain Cymru.鈥
Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu wrth i wahanol grantiau, rhaglenni hyfforddi a chyfleoedd eraill ddod ar-lein.
I gadw i fyny, ewch i wefannau a .