天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Wyneb Newydd ar y Briffordd yn B5373 Croesffordd Caer Estyn

Published: 05/12/2025

Mae cyllid wedi cael ei sicrhau i gyflawni gwaith ail-wynebu B5373 Croesffordd Caer Estyn.

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Sadwrn, 6 Rhagfyr ac yn para am oddeutu dau ddiwrnod.

Er mwyn hwyluso鈥檙 gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith rhwng 8am a 5pm er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y briffordd.聽

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, ond gallai fod peth oedi.

Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檔 contractwr Breedon Trading Ltd yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu darfu a achosir o ganlyniad i鈥檙 gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn.