天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgyrch Sceptre: Busnesau Sir y Fflint yn pasio prawf gwerthu cyllyll i bobl dan oed

Published: 20/11/2025

Mae t卯m Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint wedi cymryd rhan yn Ymgyrch Sceptre yn ystod wythnos genedlaethol gweithredu yn erbyn troseddau cyllyll.聽

Roedd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth 芒 Heddlu Gogledd Cymru lle ymwelodd gwirfoddolwyr dan oed 芒 nifer o safleoedd ledled y sir.聽

Ar bob achlysur, gwrthododd busnesau werthu cyllyll i'r gwirfoddolwyr ifanc, gan ddangos cydymffurfiaeth gref 芒 chyfreithiau cyfyngiadau oedran ac ymrwymiad i ddiogelwch cymunedol yn Sir y Fflint.

Dywedodd y Cynghorydd Ted Palmer, aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Diogelu'r Cyhoedd: 鈥淩ydym yn hynod falch o ganlyniadau鈥檙 ymarfer hwn. Mae'n hanfodol nad yw cyllyll yn dod i ddwylo pobl ifanc ac mae'r gwiriadau hyn yn dangos bod busnesau lleol yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif.聽

鈥淢ae鈥檔 bwysig bod awdurdodau lleol yn gweithio ochr yn ochr 芒鈥檙 heddlu i sicrhau bod busnesau鈥檔 cyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn rhoi neges glir na fydd diffyg cydymffurfio 芒鈥檙 gyfraith yn cael ei oddef. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r heddlu a manwerthwyr i gadw ein cymunedau'n ddiogel.鈥�

Roedd yr ymarfer yn rhan o ymdrechion parhaus Heddlu Gogledd Cymru i leihau troseddau cyllyll. Mae'r cyngor wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau ac atgyfnerthu pwysigrwydd cydymffurfio.

I gael rhagor o wybodaeth am Safonau Masnach, .