天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2025 - 鈥楪wybod eich hawliau, defnyddio eich hawliau鈥

Published: 17/11/2025

AdobeStock_374120950-min.jpeg

Eleni, cynhelir Diwrnod Hawliau Gofalwyr ddydd Iau 20 Tachwedd 2025 鈥 a鈥檙 thema eleni yw 鈥楪wybod eich hawliau, defnyddio eich hawliau鈥.

Gofalwr yw unrhyw un sy'n gofalu, yn ddi-d芒l, am ffrind neu aelod o'r teulu sydd, oherwydd salwch, anabledd, gwendid, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, yn methu ag ymdopi heb eu cefnogaeth.

Gall gofalwr fod o unrhyw oedran, gan gynnwys:

  • Gofalwr ifanc o dan 18 oed.
  • Rhiant sy鈥檔 ofalwr i blentyn sydd ag anghenion cymorth ychwanegol.
  • Ffrind neu gymydog sy鈥檔 darparu cymorth i rywun sy鈥檔 fregus.
  • Gwr, gwraig neu bartner.
  • Rhywun sy鈥檔 gofalu am riant oedrannus sydd angen cymorth.
  • Gall gofalu am rywun gymryd ychydig o oriau bob wythnos, neu gall gofalwr fod yn gofalu am 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Ledled y DU mae gofalwyr yn darparu cymorth allweddol ac amhrisiadwy i bartner, aelod o鈥檙 teulu neu ffrind. Nid yw nifer o bobl yn gweld eu hunain fel gofalwyr, ac yn aml nid ydynt yn ymwybodol o鈥檜 hawliau a鈥檙 hyn sydd ar gael iddynt o ran cymorth a budd-daliadau.

Os ydych yn ofalwr newydd neu wedi bod yn gofalu am aelod o鈥檙 teulu, ffrind neu gymydog am beth amser, efallai y byddwch yn teimlo nad oes unrhyw un yn gwrando arnoch neu nad ydych yn cael eich cefnogi, ond fel gofalwr di-d芒l mae gennych hawliau.

Wyddoch chi fod hawliau gofalwr di-d芒l yn cynnwys:

  • Hawl i gael Asesiad Gofalwr i nodi eich anghenion cymwys a鈥檜 diwallu.
  • Hawliau yn y gwaith a鈥檙 hawl i beidio ag wynebu gwahaniaethu oherwydd eich cyfrifoldebau gofalu.
  • Hawl i gael eich cydnabod fel gofalwr.
  • Hawl i gael eich cynnwys wrth gynllunio trefniadau rhyddhau o鈥檙 ysbyty.
  • Hawl gofalwr i gael egwyl.
  • Hawl i gofrestru fel gofalwr di-d芒l gyda鈥檆h Meddyg Teulu er mwyn i chi gael mynediad at wiriadau iechyd a brechiadau.
  • Hawl i ofalwyr di-d芒l gael hyd at 5 diwrnod i ffwrdd o鈥檙 gwaith yn ddi-d芒l er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau gofalu.

Yn Sir y Fflint rydym yn falch o gefnogi dros 11,500 o drigolion sydd 芒 chyfrifoldebau gofalu, trwy wasanaethau mewnol a鈥檔 sefydliadau partner.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: 鈥淢ae gofalwyr a gofalwyr ifanc yn chwarae r么l hanfodol yn ein cymunedau, ac mae鈥檔 bwysig eu bod yn gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw yn bersonol. Rydw i鈥檔 ymfalch茂o yn yr amrywiaeth eang o wasanaethau sydd ar gael i ofalwyr ledled Sir y Fflint, a rhoddaf wahoddiad cynnes i unrhyw un sydd angen cymorth i estyn allan.鈥

Meddai Craig Macleod, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol: 鈥淩ydym yn gwerthfawrogi鈥檙 r么l hanfodol y mae gofalwyr 鈥 gan gynnwys gofalwyr ifanc 鈥 yn ei chwarae wrth gefnogi eu hanwyliaid, ac rydym yn cydnabod y bydd angen cefnogaeth arnyn nhw hefyd. Mae lles gofalwyr yn flaenoriaeth ac rydym yn ymroddedig i sicrhau eu bod yn gwybod bod ystod eang o help, arweiniad a chefnogaeth ar gael pryd bynnag y bydd ei angen arnynt 鈥 nid dim ond mewn argyfwng. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth yn y gymuned sy鈥檔 darparu cymorth ymarferol ac emosiynol ochr yn ochr 芒 gwasanaethau statudol i ddiogelu hawliau a lles gofalwyr.鈥

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC), a gomisiynir gennym i ddarparu gwasanaethau i ofalwyr, wedi'i leoli ar Stryd Fawr yr Wyddgrug (38鈥42 Stryd Fawr, Yr Wyddgrug, CH7 1BB) ac mae鈥檔 croesawu gofalwyr i alw heibio i gael gwybod am yr ystod o wahanol wasanaethau a all eu cefnogi yn eu r么l ofalu.

Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar .

Meddai Prif Weithredwr GOGDdC, Claire Sullivan: 鈥淩ydym yn edrych ymlaen at groesawu gofalwyr i鈥檔 Canolfan Ofalwyr. Gallwn gynnig ystod eang o gymorth i ofalwyr gan gynnwys cymorth ariannol, cynllun seibiant sydd wedi ennill gwobrau, asesiadau o anghenion gofalwyr, cwnsela, hyfforddiant, grwpiau cefnogi cyfoedion, cymorth ysbyty a mwy. Gall GOGDdC helpu gofalwyr i gael gafael ar wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth os oes arnynt angen cymorth yn eu r么l gofalu, yn ogystal 芒 rhoi gwybod iddynt am eu hawliau fel gofalwr di-d芒l. Felly dewch draw i鈥檔 gweld ni.鈥