天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ail-wynebu Ffordd Gerbydau B5444 Stryd Wrecsam, Yr Wyddgrug

Published: 06/11/2025

Roadworks - 1200 x 630px .jpg

Mae cyllid wedi cael ei sicrhau i gyflawni gwaith ail-wynebu ffordd gerbydau yn B5444 Stryd Wrecsam, Yr Wyddgrug.

Bydd y gwaith yn digwydd rhwng The Cross a Gas Lane gan ddechrau ddydd Llun, 10 Tachwedd am oddeutu wythnos (ni fydd gwaith yn ystod y penwythnos).

Er mwyn hwyluso鈥檙 gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith rhwng 7pm ac 1am (gweithio鈥檔 ystod y nos) er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y briffordd.

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, ond gallai fod peth oedi.

Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檙 contractwr, Tarmac Trading Ltd, yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu anghyfleustra sy鈥檔 deillio o鈥檙 gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn.聽