Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol toiledau cyhoeddus yn Nhreffynnon, yr Wyddgrug a Thalacre
Published: 05/11/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn ceisio barn y cyhoedd a busnesau lleol am ddyfodol toiledau cyhoeddus yn Nhreffynnon, yr Wyddgrug a Thalacre.聽聽
Ym mis Rhagfyr 2024, wrth gynllunio ein cyllideb ar gyfer 2025/26, roedd y Cyngor yn rhagweld y byddai ei gostau rhedeg o ddydd i ddydd yn cynyddu 拢47.5 miliwn oherwydd sawl ffactor y tu hwnt i鈥檔 rheolaeth.聽 Roedd hyn llawer mwy na鈥檙 incwm a ragwelwyd y byddem yn ei dderbyn o鈥檔 grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru, Treth y Cyngor a ffioedd a thaliadau am ein gwasanaethau.
Ym mis Chwefror 2025, llwyddodd Cyngor Sir y Fflint i bennu ei gyllideb ar gyfer 2025/26.聽 Doedd hyn ddim yn hawdd, ac fe gymerodd sawl mis i鈥檞 gynllunio.聽 Er mwyn cau bwlch cyllidebol mor fawr, bu鈥檔 rhaid ystyried nifer o ddewisiadau anodd iawn. Roedd hyn yn cynnwys lleihau鈥檙 gyllideb i redeg ein toiledau cyhoeddus, gyda鈥檙 bwriad o ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddarparu mynediad i doiledau yn y lleoliadau yma.聽聽
Er nad oes yna ofyniad cyfreithiol bod Cynghorau Sir yng Nghymru yn darparu toiledau cyhoeddus, o dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017, mae鈥檔 rhaid iddynt lunio Strategaeth Toiledau Lleol sy鈥檔 nodi sut y gall pobl ddefnyddio toiledau yn y gymuned. Mae Sir y Fflint ar gael ar ei wefan.
Bellach, ni all Cyngor Sir y Fflint fforddio i barhau i redeg y toiledau cyhoeddus yma, ac mae鈥檔 agored i weithio gyda grwpiau gwirfoddol neu grwpiau cymunedol, cynghorau tref neu gymuned, busnesau, sefydliadau, neu unrhyw gyfuniad o bob un, i gael syniadau i barhau i gynnal mynediad i gyfleusterau toiledau cyhoeddus yn yr ardaloedd yma.聽
Meddai鈥檙 Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Ted Palmer:聽
鈥淢ae鈥檔 debygol bod preswylwyr a busnesau Sir y Fflint wedi gweld llawer o straeon yn y wasg yn gynharach eleni am gynlluniau鈥檙 Cyngor i gau toiledau cyhoeddus yn Nhreffynnon, yr Wyddgrug a Thalacre.聽聽
鈥淓r y gwnaed y penderfyniad anodd iawn i leihau鈥檙 gyllideb, ni fu yna erioed fwriad i gau鈥檙 toiledau yma, ond yn hytrach, i weithio鈥檔 agos gyda phreswylwyr, busnesau, ymwelwyr, trefi a chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd i bobl allu defnyddio鈥檙 toiledau tra鈥檜 bod allan yn y lleoliadau yma.聽 聽
鈥淓r y bydd y toiledau yn Nhreffynnon, yr Wyddgrug a Thalacre yn parhau ar agor hyd nes y deuir o hyd i ddatrysiadau, ni allwn fforddio i鈥檞 cadw nhw ar agor am byth, felly mae arnom angen i bobl gymryd rhan a rhannu syniadau a siarad am sut y gellir eu cadw ar agor heb gyllid y Cyngor.鈥
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng dydd Mercher 5 Tachwedd a dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025 a bydd yn agored i bawb gael dweud eu dweud.聽
Ceir mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor
Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi鈥檙 arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o lle bydd modd cael cefnogaeth. Mae鈥檙 oriau agor ar wefan y Cyngor.聽聽