天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parc Arfordir Sir y Fflint yn Dathlu Hwb Ariannol i Wella Diogelwch Doc Maes Glas

Published: 27/10/2025

Dr么n Maes Glas - Arfordir Sir y Fflint

Mae T卯m Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn hwb arall i鈥檞 ymdrechion i wella Arfordir Sir y Fflint, gyda dyraniad o 拢96,960 o gyllid allanol gan Gronfa Forol a Physgodfeydd Cymru.

Mae鈥檙 dyfarniad yn nodi cam arall ymlaen i wella 鈥楶arc Arfordir Sir y Fflint鈥�. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer asesiadau a gwelliannau diogelwch ar y tir. Mae Doc Maes Glas yn lleoliad prysur ar gyfer casglu cocos, pysgota a phobl yn cerdded, mynd ar olwynion a beicio ar Lwybr yr Arfordir, gan gynnig golygfeydd gwych o鈥檙 Aber ac mae鈥檔 boblogaidd trwy gydol y flwyddyn.

Mae鈥檙 Doc yn lleoliad pwysig ar gyfer pysgota a chasglu cocos masnachol, gan greu swyddi ar gyfer yr economi. Mae hefyd yn denu pysgota hamdden ac yn cynnig mynediad hawdd ar gyfer pobl i fwynhau鈥檙 amgylchedd naturiol, i wella eu hiechyd a lles.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth Cyngor Sir y Fflint, 鈥楳ae鈥檙 cyllid hwn yn dod ar adeg pan mae cyllid allanol hyd yn oed yn fwy hanfodol. Bydd yn ein galluogi ni i symud ymlaen gyda鈥檔 dyhead ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint gwell, wrth ddiogelu defnyddwyr ac ymwelwyr - sef enaid ein harfordir. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gallent barhau i fwynhau鈥檙 arfordir yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol, ond dim ond trwy geisiadau am gyllid allanol y gall ein gweledigaeth ddod yn realiti.鈥�

Dywedodd Tom Woodall, Rheolwr Mynediad a鈥檙 Amgylchedd Naturiol, 鈥楤ydd Doc Maes Glas yn elwa o 拢96,960.00 gan Gyllid Morol a Physgodfeydd Cymru Llywodraeth Cymru i wella Parc Arfordir Sir y Fflint ymhellach.鈥�

Mae Parc Arfordir Sir y Fflint yn ymestyn ar draws arfordir Sir y Fflint o Saltney i Dalacre, gan gynnwys Porth y Gogledd a Garden City, Cei Connah a Shotton, y Fflint, Bagillt, Maes Glas, Llannerch-y-m么r a Mostyn, a Gronant.

I gael manylion am y cyllid, ewch i .

I gael rhagor o wybodaeth am Arfordir a Chefn Gwlad Sir y Fflint, ewch i'r .