Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith i roi wyneb newydd ar y ffordd wedi鈥檌 gynllunio yn ystod yr hanner tymor
Published: 24/10/2025

Gwaith i roi wyneb newydd ar y ffordd wedi鈥檌 gynllunio yn ystod yr hanner tymor
Mae cyllid wedi cael ei sicrhau i roi wyneb newydd ar y ffordd mewn sawl lleoliad ar draws y Sir yn ystod wythnos hanner tymor.
Mae chwe chynllun fod i ddechrau ar ddydd Sadwrn 25 Hydref. Er mwyn hwyluso鈥檙 gwaith, bydd ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a fydd yn cyflawni鈥檙 gwaith a defnyddwyr eraill y briffordd.
Bistre Avenue a Tabernacle Street, Bwcle
Bydd gwaith yn dechrau ddydd Sadwrn 25 Hydref am wythnos. Fe fydd y ffordd wedi鈥檌 chau rhwng 08:00 a 17:00.
B5127 Ffordd yr Wyddgrug, Ewloe Green
Gwaith yn dechrau ar ddydd Llun, 27 Hydref am un wythnos. Fe fydd y ffordd wedi鈥檌 chau rhwng 09:00 a 16:30.
Ffordd Alexandra, Yr Wyddgrug
Gwaith yn dechrau ar ddydd Llun, 27 Hydref am ddau ddiwrnod.
Bydd y ffordd ar gau rhwng 09:00 a 17:00 a diddymir y drefn unffordd ar Ffordd Victoria yn ystod oriau gwaith fel y gall traffig fynd y ddwy ffordd dan reolaeth Swyddogion Traffig ar y safle. Bydd mynediad i eiddo, Ysgol Bryn Coch a鈥檙 fynwent ar hyd Ffordd Victoria yn ystod oriau gwaith yn unig.
St David鈥檚 Lane, Yr Wyddgrug
Gwaith yn dechrau ar ddydd Mawrth, 28 Hydref am dri diwrnod. Fe fydd y ffordd wedi鈥檌 chau rhwng 09:00 a 16:00.
Yr A550 Ffordd Penarl芒g, Yr H么b (O Sarn Lane i Ysgol Estyn)
Gwaith yn dechrau ar ddydd Mawrth, 28 Hydref am bump diwrnod. Fe fydd y ffordd wedi鈥檌 chau rhwng 09:00 a 16:30.
A5023 Brig Boot Hill, Treffynnon
Gwaith yn dechrau ar ddydd Gwener 31 Hydref am un wythnos. Fe fydd y ffordd wedi鈥檌 chau rhwng 09:00 a 16:00.
Bydd y contractwr yn gwneud pob ymdrech i gadw at y dyddiau a鈥檙 amser a roddwyd, ond mae鈥檔 bosibl y bydd angen amrywio鈥檙 rhain os yw鈥檙 tywydd yn wael neu os yw鈥檙 amgylchiadau yn anffafriol. Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu anghyfleustra sy鈥檔 deillio o鈥檙 gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn.