天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sicrhau cyllid i ailwynebu B5125 Brychdyn

Published: 01/10/2025

Sicrhawyd cyllid i roi wyneb newydd ar yr B5125 Chester Road, Brychdyn.

Bydd y gwaith, a fydd yn cael ei wneud rhwng cylchfan Manor Lane a chylchfan Brychdyn, yn cymryd tua un wythnos ac mae fod i ddechrau heddiw (dydd Mercher, 1 Hydref) - os bydd y tywydd yn caniat谩u.聽

Er mwyn hwyluso鈥檙 gwaith, bydd y ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith rhwng 6.30pm a 6am er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y briffordd.聽

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檔 contractwr Tarmac Trading Ltd yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu darfu a achosir yn ystod y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn.