Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Saith mlynedd o鈥檙 rhaglen 鈥楤wyd a Hwyl鈥 yn Sir y Fflint
Published: 30/09/2025
Cofrestrodd dros 390 o blant oedran cynradd ac uwchradd Sir y Fflint i fynychu鈥檙 rhaglen Bwyd a Hwyl eleni a gynhaliwyd mewn 10 o ysgolion ledled y sir yn ystod tair wythnos gyntaf gwyliau鈥檙 haf.
Yn ystod 12 diwrnod y cynllun, cafodd y disgyblion gynnig brecwast iach, byrbryd a chinio poeth. Rhoddwyd dros 500 o boteli dwr y gellir eu hailddefnyddio yn rhodd gan Wall-Lag (Cymru) er mwyn sicrhau nad oedd y disgyblion yn mynd yn sychedig.
Rhedodd Ysgol Bryn Garth, Ysgol Bryn Gwalia, Ysgol Gynradd Queensferry, Ysgol Gynradd Golfftyn, Ysgol Treffynnon, Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Ysgol Pen Coch ac Ysgol Maes Hyfryd, y rhaglen eto. Yn ymuno 芒 nhw am y tro cyntaf oedd Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn ac Ysgol Merllyn.
Yn ogystal 芒 dysgu am fwyta鈥檔 iach, mwynhaodd y disgyblion sesiynau blasu bwyd a rhoddwyd cyfle iddyn nhw ymarfer eu sgiliau coginio. Gwahoddwyd disgyblion i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau cyfoethogi gan gynnwys pyrograffeg, ysgythru ar lechi, gwehyddu helyg, arbrofion gwyddoniaeth Xplore, sgiliau syrcas, codio ac ystod wych o weithgareddau corfforol, gan gynnwys dringo wal greigiog, sglefrfyrddio, chwarae tennis ac osgoi鈥檙 b锚l.
Daeth Heddlu Gogledd Cymru i ymweld 芒鈥檙 lleoliadau, gan gynnig cyfle i鈥檙 disgyblion eistedd yn fan yr heddlu, gwisgo鈥檙 wisg a sgwrsio gyda swyddogion.聽聽
Cynlluniwyd yr amserlen weithgareddau gan y staff gan ganolbwyntio ar faeth, gweithgarwch corfforol a lles cadarnhaol.
Nawr yn ei seithfed flwyddyn, cyflwynir y Rhaglen Bwyd a Hwyl gan Gyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth 芒 Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Hamdden Gwella, Arlwyo NEWydd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.聽
Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: 鈥淢ae鈥檔 wych gweld cynifer o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn y rhaglen Bwyd a Hwyl eleni. Mae cannoedd o ddisgyblion wedi mwynhau prydau iach, gweithgareddau a chefnogaeth dros yr haf, sy鈥檔 gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd yn ystod gwyliau鈥檙 haf. Hoffwn ddiolch i鈥檙 holl staff a phartneriaid sy鈥檔 gysylltiedig 芒 helpu i ddarparu profiad mor gadarnhaol a gwerthfawr.鈥
Arweiniwyd y rhaglen gan y t卯m Ysgolion Bro mewn tair ysgol eleni, sef Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Ysgol Uwchradd Dewi Sant ac Ysgol Pen Coch. Gan weithio ochr yn ochr 芒 staff o鈥檙 ysgolion, fe hwyluson nhw amserlen lawn ac amrywiol o weithgareddau a phrofiadau i ddisgyblion, ymgysylltu 芒鈥檙 rhieni ar y diwrnodau cinio i rieni a sicrhau bod y rhaglen yn rhedeg yn esmwyth.
Cofrestrodd dros 60 o ddisgyblion ar gyfer y rhaglen Bwyd a Hwyl yn yr ysgolion arbennig, Pen Coch a Maes Hyfryd, gan roi seibiant bach i rieni yn ystod gwyliau鈥檙 haf a chaniat谩u i ddisgyblion barhau 芒鈥檜 patrwm dyddiol a chymryd rhan yng nghynlluniau鈥檙 haf a hwylusir gan y Cyngor.