Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn sicrhau £5 miliwn ar gyfer gwelliannau priffyrdd
Published: 29/09/2025
Mae rhaglen fawr o waith cynnal a chadw a gwella ffyrdd yn mynd rhagddi yn Sir y Fflint. Mae鈥檙 rhaglen, sydd wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn anelu i gyflymu鈥檙 broses o atgyweirio ein rhwydwaith priffyrdd lleol.
Mae鈥檙 Fenter Benthyca Llywodraeth Leol newydd yn darparu 拢10m o gyllid refeniw ychwanegol i gynghorau lleol i'w galluogi i ddatgloi 拢120m o gyllid cyfalaf ychwanegol i gyflymu'r broses o drwsio ein ffyrdd a'n palmentydd lleol. Nod y fenter yw cynyddu faint o waith ail-wynebu ac atgyweirio tyllau mewn ffyrdd sy鈥檔 cael ei gwblhau ar draws holl awdurdodau lleol Cymru, gan ganolbwyntio ar y ffyrdd sydd fwyaf angen sylw.
Mae Sir y Fflint wedi sicrhau 拢5.66m o鈥檙 fenter ar gyfer gwaith cynnal a chadw ffyrdd dros y ddwy flynedd nesaf gyda rhaglen waith wedi鈥檌 datblygu i wella arwyneb amryw o ffyrdd yn y sir, gyda buddsoddiad sylweddol wedi鈥檌 gynllunio. Bydd y rhaglen yn cael ei rhannu鈥檔 ddau gam a bydd y cyllid yn cael ei rannu dros ddwy flynedd ariannol: 2025-2026 a 2026-2027.
Bydd cam cyntaf y rhaglen 拢2.7m i roi wyneb newydd ar ffyrdd yn dechrau wythnos聽yma gyda gwaith wedi鈥檌 gynllunio mewn 26 o leoliadau ac ail gam arall wedi鈥檌 gynllunio鈥檔 ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol. Dechreuodd y rhaglen o drwsio鈥檙 ffyrdd cerbydau ym mis Awst 2025, sy鈥檔 rhaglen 拢1.2 miliwn eleni, a bydd yn parhau dros gyfnod o ddwy flynedd, gyda鈥檙 gwaith trin arwynebau ar gyfer 2025 eisoes wedi鈥檌 gwblhau, gan gyflawni 拢0.450m o welliannau i鈥檙 rhwydwaith ffyrdd.
Dywedodd y Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd: 鈥淩ydym yn croesawu鈥檙 cyllid hwn a fydd yn ein galluogi ni i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 么l-groniad sylweddol o waith adeiladu a chynnal a chadw sydd angen ei wneud ar ffyrdd ar draws y sir.聽 Rydym yn gwybod bod hyn yn flaenoriaeth i鈥檔 preswylwyr a鈥檔 cymunedau lleol, ac mae鈥檔 hanfodol ein bod yn cadw ein ffyrdd yn ddiogel ac mewn cyflwr da.鈥澛
Mae鈥檙 rhaglenni yn ymwneud 芒 thriniaethau strwythurol ac wyneb i ffyrdd cerbydau a throedffyrdd yn cael eu blaenoriaethu o ddata arolwg cyflwr blynyddol ac archwiliad gweledol i wella isadeiledd priffyrdd o fewn Sir y Fflint.聽
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen o waith gwella priffyrdd ar gael ar wefan Sir y Fflint a bydd camau pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law.