Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaethau gofal cymdeithasol plant Sir y Fflint yn parhau i ddatblygu a gwella
Published: 16/09/2025
听Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Cyngor Sir y Fflint yn croesawu鈥檙 gwiriad gwella diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).听
Canfu鈥檙 gwiriad, a oedd yn canolbwyntio ar feysydd a nodwyd yn ystod yr arolwg llawn diwethaf ym mis Tachwedd 2023, gynnydd cadarn gan adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cefnogaeth o ansawdd uchel i deuluoedd a phlant.
Nododd arolygwyr AGC welliant parhaus o safbwynt arweinyddiaeth, arferion diogelu, sefydlogrwydd y gweithlu ac ansawdd y gofal a chefnogaeth a roddir i blant a theuluoedd. 听 Gan ategu at arolwg cadarnhaol yn 2023, nododd AGC gynnydd mewn meysydd penodol a nodwyd i鈥檞 datblygu a chanfod tystiolaeth o gynnydd i ymgorffori ymarfer i sicrhau gwelliant parhaus.
鈥淩ydym yn falch iawn gyda chanlyniad y gwiriad gwella hwn, sy鈥檔 cadarnhau鈥檙 cynnydd a wnaed ers yr arolwg diwethaf鈥, meddai Sarah Grant, Uwch Reolwr Gwasanaethau Plant.
鈥淓r bod yr adroddiad blaenorol yn cydnabod bod ein gwasanaethau eisoes yn perfformio鈥檔 dda, roedd yn cyflwyno argymhellion defnyddiol i atgyfnerthu ein hymarfer ymhellach.听
Dros y misoedd diwethaf, mae ein timau wedi bod yn gweithio gyda ffocws a gofal i ymgorffori鈥檙 gwelliannau hynny, ac mae鈥檔 galonogol gweld bod AGC wedi cydnabod effaith y gwaith.听 Mae ein blaenoriaeth yn aros yr un fath: darparu cefnogaeth ddiogel, ymatebol ac o ansawdd uchel i blant a theuluoedd.听 Mae鈥檙 adroddiad hwn yn adlewyrchu ymroddiad ein staff a chryfder ein partneriaethau, ac rydym wedi ymrwymo i barhau 芒鈥檙 daith gadarnhaol hon.鈥听
Pwyntiau allweddol adroddiad AGC:听
Arweinyddiaeth a llywodraethu wedi鈥檌 atgyfnerthu, gan feithrin diwylliant o welliant parhaus.听
鈥淢ae arweinwyr yn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol drwy arweinyddiaeth dosturiol, gyda phwyslais cryf ar ddatblygu鈥檙 gweithlu.听 Mae gweithlu angerddol a gefnogir yn dda er mwyn darparu gwasanaethau i blant a theuluoedd鈥.听
Sefydlogrwydd y gweithlu wedi gwella, gyda chynnydd o ran recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol medrus a llai o ddibyniaeth ar staff asiantaeth.听
鈥淣ododd 87% o鈥檙 ymatebwyr mewn arolwg i ymarferwyr y byddent yn argymell gweithio yn Sir y Fflint.鈥听
Gwelliant o ran cymorth llety, cyfrannu at ostyngiad mewn digartrefedd ymysg pobl ifanc sy鈥檔 gadael gofal.听
鈥淢ae canolbwynt cryf ar wella llety wedi cyfrannu at ostyngiad diweddar mewn digartrefedd ymysg pobl ifanc sy鈥檔 gadael gofal.鈥听
Gwasanaethau cymorth cynnar ac atal, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer plant niwroamrywiol.听
鈥淢ae canolbwynt strategol ar wella鈥檙 dulliau o nodi plant a theuluoedd a allai elwa o gefnogaeth yn gynt鈥.听
鈥淢ae ystod o ddewisiadau cymorth cynnar ac atal ar gael i gefnogi plant a theuluoedd, gan gynnwys plant sydd wedi derbyn diagnosis niwroamrywiaeth neu鈥檔 aros am asesiad.鈥听
Canmolodd AGC yr ymagwedd gydweithredol gadarnhaol, gan nodi bod partneriaethau amlasiantaeth cryf wedi cyfrannu at gefnogaeth sy鈥檔 fwy cyfannol ac effeithiol ar gyfer plant.听听听
Gan edrych tua鈥檙 dyfodol, mae鈥檙 adroddiad yn nodi bod angen parhau 芒鈥檙 momentwm i ddatblygu ac ymgorffori gwelliant parhaus ymhellach gan fynd i鈥檙 afael 芒 meysydd penodol i wella ac atgyfnerthu ymarfer a darpariaeth gwasanaeth.听
鈥淩ydym yn parhau i ymrwymo i wrando, dysgu a datblygu er mwyn i鈥檔 gwasanaethau barhau i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd yn Sir y Fflint.听 Mae鈥檙 cyflawniad hwn yn adlewyrchiad o鈥檙 hyn sy鈥檔 bosibl pan fyddwn yn cydweithio gyda phwrpas a thrugaredd.鈥听
Ychwanegodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:听
听鈥淢ae gwiriad gwella diweddaraf AGC yn dystiolaeth gref o鈥檙 cynnydd cyson ac ystyrlon a wnaed gennym fel gwasanaeth.听 Er bod yr arolwg diwethaf yn nodi rhai meysydd i鈥檞 datblygu, roedd hefyd yn cydnabod y sylfeini cadarn sydd eisoes yn eu lle.听
Rwy鈥檔 falch o ddweud ein bod wedi datblygu鈥檙 cryfderau hynny ac wedi ymateb yn rhagweithiol i bob argymhelliad.听
Mae鈥檙 gwelliannau yr ydym wedi鈥檜 cyflawni eisoes yn gwneud gwir wahaniaeth i blant a theuluoedd, a dyna sydd bwysicaf.听 Mae ein staff wedi dangos ymroddiad a phroffesiynoldeb anhygoel, ac mae鈥檙 adroddiad hwn yn adlewyrchu eu hymrwymiad i welliant parhaus a gofal o ansawdd uchel.听 Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein pobl a鈥檔 gwasanaethau i sicrhau ein bod yn aros yn ymatebol, gwydn ac yn parhau i ganolbwyntio ar anghenion ein cymuned.鈥听
I gael rhagor o wybodaeth neu i weld adroddiad llawn AGC, .听