Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Disgyblion Sir y Fflint yn gweithredu dros fannau chwarae mwy diogel
Published: 19/08/2025
Mae disgyblion o Ysgol Mynydd Isa wedi cymryd camau rhagweithiol i fynd i鈥檙 afael 芒 phroblem barhaus baw cwn mewn mannau chwarae.
Fel rhan o fenter gydweithredol rhwng Ysgol Mynydd Isa, Cyngor Cymuned Argoed, Cadwch Gymru'n Daclus a Chyngor Sir y Fflint, fe wahoddwyd plant i gymryd rhan mewn cystadleuaeth poster creadigol ar y thema 鈥楥wn Tu Allan, Plant Tu Mewn鈥.
Y nod oedd creu arwyddion clir, parchus a thrawiadol i鈥檙 llygad er mwyn sicrhau nad yw perchnogion cwn yn gadael i鈥檞 hanifeiliaid anwes fynd heibio ffens y cae p锚l-droed ym Mharc Clawdd Wat fel bod modd cael lle chwarae gl芒n a diogel i blant chwarae.
Roedd yr ymateb yn ardderchog ac fe dderbyniwyd dros 200 darn o waith ag 么l meddwl gan blant sy鈥檔 awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned. Nid oedd dewis yr enillydd yn dasg hawdd, ond dewisodd y beirniaid yr un ddau ddyluniad yn annibynnol. Llongyfarchiadau i Max J. (Blwyddyn 4) a Poppy B. (Blwyddyn 2). Mae eu posteri bellach wedi鈥檜 hargraffu鈥檔 broffesiynol a鈥檜 gosod ym mynedfeydd parciau. Bydd yr arwyddion hyn yn ffordd gadarn o atgoffa pobl ynghylch pwysigrwydd gwarchod mannau lle mae plant yn chwarae.
Yr hyn sy鈥檔 bwerus am y fenter hon yn benodol yw creadigrwydd y gwaith, yn ogystal 芒鈥檙 aeddfedrwydd, yr empathi a鈥檙 ymdeimlad o gyfrifoldeb sy鈥檔 cael ei ddangos gan blant Ysgol Mynydd Isa. Ym mhob darn o waith, fe wnaeth y disgyblion gyfleu eu neges gyda gwir barch- gan gydnabod r么l perchnogion cwn cyfrifol, wrth hefyd gymell newid mewn ymddygiad er diogelwch pawb a鈥檙 amgylchedd lleol. Er bod rhai wedi datgelu bod gan rai pobl, yn cynnwys plant, ofn cwn, tynnodd sawl un sylw at y risgiau iechyd difrifol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 baw cwn, sy鈥檔 cynnwys bacteria niweidiol a all achosi salwch difrifol ac mewn achosion eithafol, arwain at ddallineb.听
Yr hyn sy鈥檔 bwysig yw bod y plant wedi cydnabod ei bod yn broblem ymhell y tu hwnt i ffensys parciau.听 Yn ogystal 芒 pheri risgiau i feysydd chwarae a chaeau chwaraeon- mae鈥檔 halogi palmentydd, parciau cyhoeddus a charpedi mewn ysgolion lle mae plant yn eistedd, chwarae a dysgu. Mae eu dadleuon yn pennu neges glir mai鈥檙 cam cyntaf i warchod iechyd y cyhoedd yw cymryd camau unigol cyfrifol.
Meddai鈥檙 Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Mared Eastwood: 鈥淢ae鈥檙 prosiect hwn yn destament grymus i ddylanwad lleisiau pobl ifanc o ran datblygu cymunedau iachach a mwy diogel. Mae鈥檙 plant hyn wedi dangos ymwybyddiaeth, trugaredd ac awydd cryf i wella eu hamgylchedd. Mae鈥檙 posteri yn fwy na chelf - maent yn negeseuon o barch, gofal, cyfrifoldeb a gweithredu.鈥
Fe wnaeth y ddau fyfyriwr a enillodd dderbyn tystysgrifau cyflawniad a鈥檙 anrhydedd o weld eu gwaith celf yn cael ei drawsnewid yn arwydd cymunedol parhaol, yn waddol o ran sut y gall y dinasyddion ieuengaf ysgogi newid gwirioneddol ac ystyrlon.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn atgoffa preswylwyr bod caniat谩u mynediad i gwn i fannau chwarae dynodedig neu beidio 芒 glanhau ar eu h么l yn torri鈥檙 Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus.听 Gall y sawl sy鈥檔 troseddu dderbyn Rhybudd Cosb Benodedig ac wynebu dirwyon o hyd at 拢1,000.
Rydym yn annog holl berchnogion cwn i gael eu hysbrydoli gan negeseuon ystyriol a pharchus y plant, drwy ddangos yr un gofal a chyfrifoldeb tuag at ein mannau cyhoeddus a rennir. Os ydych chi鈥檔 berchennog ci cyfrifol, beth am fynd gam ymhellach ac ymuno 芒鈥檔 menter Cerddwyr Cwn Gwyrdd? , rydych yn ymrwymo i lanhau ar 么l eich ci bob amser ac, os oes angen, cynnig bagiau baw cwn dros ben i eraill. Fel diolch, bydd eich ffrind fflwfflyd yn derbyn bandana Cerddwyr Cwn Gwyrdd i鈥檞 wisgo- gan helpu i ledaenu鈥檙 neges gyfeillgar hon, sy鈥檔 ystyriol o鈥檙 gymuned.
Rydym hefyd yn annog ysgolion ledled Sir y Fflint i gymryd rhan mewn mentrau tebyg neu gefnogi鈥檙 ymgyrch Cerddwyr Cwn Gwyrdd drwy ddefnyddio鈥檙 adnoddau sydd ar gael ar ein gwefan. Trwy wneud hynny, gallant chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol a dangos esiampl gadarnhaol ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.听
I gymryd rhan mewn gweithgareddau gwella鈥檙 amgylchedd yn y dyfodol, cysylltwch 芒: cadwchsiryfflintyndaclus@siryfflint.gov.uk听