Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Cyngor Sir y Fflint 鈥 Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2024/25
Published: 09/07/2025
Mabwysiadwyd Cynllun y Cyngor 2023/28 gan y Cyngor fis Mehefin 2023 ac fe gaiff ei adolygu鈥檔 flynyddol i asesu鈥檙 perfformiad yn erbyn y blaenoriaethau; Tlodi, Tai Fforddiadwy a Hygyrch, Cymdeithas Werdd a鈥檙 Amgylchedd, yr Economi, Lles Personol a Chymunedol, Addysg a Sgiliau, a Chyngor a Reolir yn Dda.
Drwy gydol 2024/25, roedd 99% o鈥檙 140 cam gweithredu yn wyrdd neu鈥檔 oren 鈥 sy鈥檔 golygu eu bod nhw wedi鈥檜 cwblhau neu鈥檔 gwneud cynnydd boddhaol. O ran ein mesurau ni, roedd 82% o鈥檙 87 mesur ar y trywydd cywir neu鈥檔 dderbyniol.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd y Cyngor: 鈥淒w i鈥檔 ddiolchgar iawn i鈥檙 staff sy鈥檔 gweithio鈥檔 ddiflino i gyflawni blaenoriaethau鈥檙 Cyngor ac yn gwneud Sir y Fflint yn lle i ymfalch茂o ynddo. Mae鈥檙 Cyngor yn wynebu heriau, ond byddwn yn gweithio gyda budd-ddeiliaid allweddol, cymunedau, staff ac Aelodau i鈥檞 goresgyn.鈥
Meddai Neal Cockerton, Prif Weithredwr: 鈥淒iolch i bob aelod o staff sydd wedi cyfrannu at y canlyniad perfformiad da yma. Mae鈥檙 Cyngor yn gweithio dan amodau heriol, gyda phwysau cyllidebol sy鈥檔 gwaethygu. Er mwyn cyflawni鈥檙 amcanion corfforaethol, a chynnal gwasanaethau effeithiol ac effeithlon, mae鈥檔 cydnabod bod y daith yn un o adolygu a newid parhaus.鈥
Yn dilyn adolygiad diweddar gan Archwilio Cymru, mae鈥檙 Cyngor wedi cynnal Adolygiad Canol Cynllun o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2023/28 i ystyried y pwysau cyllidebol cynyddol ac argymhellion Archwilio Cymru. Mae Cynllun newydd ar gyfer 2025-2030 yn cael ei ddatblygu, a bydd yn cael ei rannu at ddibenion ymgynghori yn ystod y misoedd nesaf.