天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhwystr Rheoli Mynediad

Published: 07/07/2025

Ym mis Mawrth 2023, cafodd adolygiad ei gynnal o'r rhwystrau rheoli mynediad presennol (h.y. rhwystrau ar ffurf A) sydd ar waith rhwng Caer a Queensferry a osodwyd yn rhan o brosiect llwybr arfordir Gogledd Cymru.

Cafodd y rhwystrau eu gosod yn wreiddiol nifer o flynyddoedd yn 么l i atal cerbydau rhag dod i mewn yn anghyfreithlon; fodd bynnag, cafodd yr adolygiad diweddar ei gynhyrchu i gydnabod bod y rhwystrau hefyd yn cyfyngu mynediad i ddefnyddwyr cyfreithlon, a gwnaed penderfyniad i gychwyn dull graddol ar gyfer cael gwared ar yr holl rwystrau mynediad ar ffurf A ar hyd llwybr yr arfordir.

Ers mis Mawrth, mae adolygiad ychwanegol wedi cael ei gynnal i asesu'r holl rwystrau rheoli mynediad eraill ar weddill y rhwydwaith teithio llesol yn Sir y Fflint, gan gynnwys rhwystrau iagm-ogam, rhwystrau tebyg i rai Efrog, a physt tebyg i folardiau.O ganlyniad i鈥檙 adolygiad bydd unrhywrwystrau ychwanegol nad ydynt bellach yn bodloni'r ddeddfwriaeth ofynnol yn cael eu haddasu neu鈥檔 cael eu tynnu.

Dywedodd Katie Wilby, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant 鈥淓r bod y rhwystrau hyn wedi鈥檜 gosod i wella diogelwch ac atal problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol hanesyddol, yr ydym ni鈥檔 cydnabod bod nifer fawr o鈥檙 rhwystrau yn hen ffasiwn o ran eu dyluniad ac nad ydyn nhw鈥檔 bodloni Canllawiau鈥檙 Ddeddf Teithio Llesol a鈥檙 dyletswyddau Cydraddoldeb, ac felly mae angen eu tynnu neu eu haddasu i alluogi mynediad i bawb ar y llwybrau poblogaidd a heb draffig hyn.鈥

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant, 鈥淢ae鈥檔 bwysig ein bod ni鈥檔 sicrhau bod ein hisadeiledd i gyd yn cefnogi amgylchedd cerdded, beicio ac olwyno mwy diogel, hygyrch a chynhwysol i bawb.鈥

Disgwylir y bydd y gwaith i addasu a chael gwared ar y rhwystrau yn dechrau ym mis Awst, a bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi pan fyddan nhw wedi'u cadarnhau.