Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn sicrhau dros £500,000 o Gyllid Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru er mwyn Adfywio Canol Trefi
Published: 23/06/2025
Mae鈥檔 bleser gan d卯m Adfywio Cyngor Sir y Fflint gyhoeddi eu bod wedi llwyddo i sicrhau dros hanner miliwn o bunnoedd o gyllid Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.听 Mae鈥檙 cyllid hwn yn ein galluogi i lunio Cynllun Creu Lleoedd llwyddiannus ar gyfer canol trefi Bwcle, Treffynnon a Shotton, ac yn cefnogi鈥檙 gwaith sy鈥檔 mynd rhagddo yn y trefi blaenoriaeth eraill:听 Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry.

Mae鈥檙 buddsoddiad newydd hwn yn adeiladu ar yr 拢1,147 miliwn o gyllid sydd eisoes wedi鈥檌 sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023-25, ac yn atgyfnerthu ymrwymiad y Cyngor i adfywio canol trefi Sir y Fflint.听
Fel rhan o鈥檙 cyllid hwn, mae鈥檙 cynllun grant datblygu eiddo, a oedd yn hynod lwyddiannus yn 2023-25, bellach wedi ailagor i fusnesau yng nghanol trefi a pherchnogion eiddo yn Nhreffynnon, Bwcle a Shotton.听 Bydd y cynllun yn darparu cefnogaeth wedi鈥檌 thargedu ar gyfer prosiectau datblygu eiddo mewn canol trefi, gan helpu i roi defnydd newydd i eiddo ac ychwanegu bywyd a ffyniant i ganol trefi.听
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint:听
鈥淢ae鈥檙 buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru鈥檔 dystiolaeth o鈥檙 gwaith caled a鈥檙 weledigaeth ar gyfer canol trefi Sir y Fflint.听 听Gan adeiladu ar yr 拢1.147 miliwn yr ydym eisoes wedi鈥檌 sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023-25, mae鈥檙 cyllid newydd hwn yn golygu hyd yn oed mwy o gefnogaeth ar gyfer busnesau a pherchnogion eiddo lleol.听 Drwy gefnogi datblygiad eiddo ym Mwcle, Treffynnon a Shotton, a pharhau 芒鈥檔 cynlluniau ar gyfer Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry, rydym yn creu canol trefi croesawgar, bywiog a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.听 Rwy鈥檔 annog busnesau a pherchnogion eiddo i gysylltu 芒 ni ac ystyried y cyfleoedd sydd ar gael.鈥澨
Gall busnesau a pherchnogion adeiladau yng nghanol trefi gysylltu 芒 regeneration@flintshire.gov.uk am ragor o wybodaeth am y grantiau datblygu eiddo.听
Mae鈥檙 gwaith hwn yn rhan o nodau parhaus Cyngor Sir y Fflint i adfywio a rhoi bywyd newydd i ganol trefi a sicrhau dyfodol gwell i鈥檙 cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.听
听