天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Masnachwr Ifanc

Published: 23/06/2025

Mae Marchnad yr Wyddgrug yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnal Rownd Derfynol Ranbarthol Gwobrau Masnachwr Ifanc ar ddydd Sadwrn, 28 Mehefin. Nod y digwyddiad arbennig hwn, a gefnogir gan Gyngor Bwrdeistref Sir y Fflint, ac mewn partneriaeth 芒 Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Cenedlaethol, yw dathlu a chefnogi鈥檙 genhedlaeth nesaf o fasnachwyr marchnad, gan sicrhau ffyniant hirdymor marchnadoedd stryd a strydoedd mawr.

mm1.jpg

Ar y diwrnod, bydd y farchnad yn ehangu gyda dros ugain o stondinau ychwanegol, yn croesawu masnachwyr ifanc dawnus ar draws y rhanbarth, gan gynnwys y rhai a gystadlodd yn y rowndiau cynharach yn yr Wyddgrug, Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd-Orllewin Lloegr. Mae鈥檙 digwyddiad hwn yn argoeli i fod yn farchnad fywiog ac amrywiol, yn arddangos syniadau ffres a chynnyrch arloesol gan entrepreneuriaid y dyfodol.

鈥淢ae rhoi llwyfan i鈥檙 genhedlaeth ifanc a rhoi cymorth iddynt sefydlu, yn rhywbeth cadarnhaol iawn. Rhaid i ni edrych ar ddyfodol hirdymor y marchnadoedd a鈥檙 strydoedd mawr, ac mae mentrau fel y rhain eisoes yn cael effaith gadarnhaol. Mae cefnogi masnachwyr ifanc heddiw yn golygu marchnadoedd bywiog a ffyniannus yfory鈥. Swyddog Hyrwyddo ac Ymgysylltiad Marchnadoedd, Jonathan Thomas. 鈥淢ae derbyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU wedi ein galluogi ni i gynnal digwyddiadau fel hyn a chefnogi gwasanaethau neu sefydliadau eraill gyda gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus鈥.

Mae Gwobrau Masnachwyr Ifanc wedi dod yn gerrig camu hanfodol, gan ddarparu amlygiad, profiad a hyder sydd ei angen i lwyddo mewn busnes. Trwy gynnal y rownd derfynol ranbarthol, mae Marchnad yr Wyddgrug yn parhau ei ymrwymiad i feithrin ysbryd cymunedol, cefnogi busnesau lleol a gyrru twf economaidd yn yr ardal.

鈥淢ae cymryd rhan wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae wedi rhoi cyfle i mi sefydlu ac arddangos fy nghynnyrch i鈥檙 cyhoedd, gan gynnig llwyfan i mi rannu fy ngwaith a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer fy musnes. Mae amlygiad ar gyfer busnes bach yn werthfawr, nid yn unig er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol, ond hefyd i dderbyn adborth uniongyrchol i fy helpu i siapio a chryfhau fy musnes. Mae鈥檙 Masnachwyr Ifanc wedi rhoi cyfle i mi gwrdd 芒 masnachwyr ifanc eraill, gyda phawb yn dod a鈥檜 hegni a chreadigrwydd unigryw. Mae鈥檔 ofod bywiog a chefnogol鈥 Tania Blaine, Immortal Flame.

Un o鈥檙 masnachwyr sydd hefyd wedi elwa o鈥檙 Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc, sydd ar gael trwy Busnes Cymru ac mae llawer mwy yn y broses o wneud cais. Llwyddodd Amy Jones o Dreffynnon, sydd 芒 stondin gemwaith, i ysgwyddo mwyafrif o鈥檌 chostau sefydlu trwy鈥檙 cynllun a byddai鈥檔 annog unrhyw un sy鈥檔 ystyried dechrau busnes eu hunain i gysylltu 芒 Busnes Cymru i weld pa gymorth sydd ar gael.

Meddai Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Hinsawdd:听

鈥淢ae Marchnad yr Wyddgrug yn unigryw yn ein rhan ni o Gymru fel y profiad siopa awyr agored gorau.听 Mae鈥檔 wych bod NMTF wedi dewis yr Wyddgrug, ei marchnad a鈥檌 Stryd Fawr fel y lleoliad i arddangos rownd derfynol ranbarthol Gwobrau Masnachwyr Ifanc. Yng Nghyngor Sir y Fflint, mae鈥檔 bleser bob amser gennym groesawu鈥檙 Farchnad orau, a rwan y masnachwyr busnes ifanc gorau hefyd.听 Marchnad yr Wyddgrug ar ddydd Sadwrn ydi鈥檙 lle gorau i fod i siopa.听

Bydd y digwyddiad masnachwyr ifanc yn dychwelyd i Sir y Fflint yn 2026, ac os hoffech gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at jonathan.thomas@flintshire.gov.uk neu gallwch gysylltu 芒 Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Cenedlaethol trwy eu gwefan www.nmtf.co.uk