Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith yn dechrau ar gynllun diogelwch tân gwerth £4.75 miliwn
Published: 13/06/2025
Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect mawr gwerth 拢4.75 miliwn i wella diogelwch t芒n yng nghynlluniau tai gwarchod uchel iawn Sir y Fflint.
Bydd y prosiect, a gefnogir drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn arwain at waith uwchraddio sylweddol i systemau diogelwch t芒n goddefol a gweithredol yn Richard Heights, Bolingbroke Heights a Castle Heights.
Bydd y rhaglen 12 mis o hyd a ddechreuodd ym mis Ebrill yn darparu mesurau amddiffyn rhag t芒n gwell ar gyfer mwy na 270 o gartrefi ac yn cyfrannu at waith y Cyngor i ddiogelu ei breswylwyr.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai a Chymunedau: 鈥淩ydym yn croesawu鈥檙 buddsoddiad hanfodol hwn gan Lywodraeth Cymru ac yn falch bod modd i ni gyflawni鈥檙 gwaith hwn ar gyfer ein preswylwyr.聽
鈥淒yma brosiect sy鈥檔 cynrychioli carreg filltir bwysig yn ymrwymiad Sir y Fflint o ran diogelwch adeiladau. Mae diogelwch a lles ein tenantiaid yn flaenoriaeth gennym bob amser, a bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau mwy o amddiffyniad a thawelwch meddwl ar gyfer preswylwyr sy鈥檔 byw yn ein cynlluniau tai gwarchod uchel iawn.鈥
Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni gan Wynne Construction trwy Bartneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru, gan gefnogi gwaith o safon uchel, sy鈥檔 canolbwyntio ar yr ardal leol.
Drwy benodi contractwr o Gymru, bydd y rhan fwyaf o'r buddsoddiad yn aros yng Nghymru, gan gyfrannu at gyflogaeth leol, datblygu sgiliau a'r economi ehangach.聽