天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i 鈥極falu am Gydraddoldeb鈥 yn ystod Wythnos Gofalwyr eleni 

Published: 09/06/2025

welsh_carersweek_logo.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd gofalwyr, busnesau lleol a chefnogwyr eraill i gymryd rhan yn Wythnos Gofalwyr 2025, sy鈥檔 cael ei gynnal rhwng 9 a 15 Mehefin.听听

Mae鈥檙 thema eleni, 鈥楪ofalu am Gydraddoldeb鈥, yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o鈥檙 heriau y mae gofalwyr di-d芒l yn eu hwynebu ac mae鈥檔 cydnabod eu r么l hanfodol mewn teuluoedd a chymunedau.听 Mae hefyd yn annog pobl i ystyried eu hunain fel gofalwyr a cheisio cefnogaeth.听 Mae鈥檙 thema eleni yn tynnu sylw at yr anghydraddoldebau y mae gofalwyr yn eu hwynebu 鈥 fel tlodi, arwahanrwydd ac iechyd gwael 鈥 a sut mae cyfrifoldebau gofalu yn aml yn cyfyngu ar gyfleoedd mewn addysg, gyrfaoedd a bywyd personol.听

Mae oddeutu 18,000 o bobl yn Sir y Fflint yn gofalu am aelod teulu, ffrind neu gymydog sy鈥檔 s芒l, hyn neu鈥檔 anabl.听 Nid yw llawer o bobl yn ystyried eu hunain fel gofalwyr i ddechrau 鈥 maent ond yn helpu rhywun y maent yn ei garu neu y mae ganddynt feddwl mawr ohonynt.听 I rai, mae gofalu yn dechrau鈥檔 raddol; i eraill, gall ddechrau鈥檔 sydyn.听 Dywed Ymddiriedaeth Gofalwyr Cymru y bydd 3 o bob 5 o bobl yng Nghymru yn dod yn ofalwr ar ryw bwynt yn eu bywydau.听

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:听听

鈥淢ae Wythnos Gofalwyr yn gyfle pwysig i gymuned Sir y Fflint uno i gydnabod y r么l hanfodol y mae gofalwyr yn ei chwarae o ran cefnogi rhai o鈥檙 unigolion mwyaf diamddiffyn.听 Mae hefyd yn gyfle i dynnu sylw at yr heriau y maent yn eu hwynebu, fel risgiau uwch o dlodi, arwahanrwydd cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl a chorfforol.鈥澨

Pa gymorth sydd ar gael yn Sir y Fflint?

Yn Sir y Fflint rydym yn falch o gefnogi trigolion sydd 芒 chyfrifoldebau gofalu, trwy wasanaethau mewnol a鈥檔 sefydliadau partner. Mae gennym ystod eang o wasanaethau a sefydliadau gofalwyr yn Sir y Fflint sydd ar gael i helpu. Am fwy o wybodaeth ewch i鈥檔 苍别耻听骋

Wythnos Gofalwyr 2025听

I ddathlu Wythnos Gofalwyr, mae ein sefydliad partner GOGDdC, yn cynnal nifer o ddigwyddiadau. Bob diwrnod yn ystod Wythnos Gofalwyr maent yn canolbwyntio ar thema benodol, yn cynnig y cyfle i ganolbwyntio ar y ffyrdd gwahanol y gall anghydraddoldeb effeithio ar fywydau gofalwyr:

Dydd Llun - Iechyd a Gofal Cymdeithasol听
Dydd Mawrth 鈥 Lles Ariannol
Dydd Mercher 鈥 Gwaith a Chyflogaeth
Dydd Iau 鈥 Gofalwyr Ifanc
Dydd Gwener 鈥 Gofalwyr Hyn
Dydd Sadwrn 鈥 Iechyd Meddwl a Lles

Ewch i鈥檞 gwefan () a dilyn eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol i weld mwy o wybodaeth a rennir trwy gydol yr wythnos.

Digwyddiad Rhannu Gwybodaeth i Ofalwyr听

Mae GOGDdC hefyd yn cynnal digwyddiad rhannu gwybodaeth gyda lluniaeth a chyfle i gwrdd a siarad 芒 staff GOGDdC, yn ogystal 芒 Therapyddion Galwedigaethol a th卯m Cymorth Taliadau Uniongyrchol Cyngor Sir y Fflint.听

Dewch draw i GOGDdC, 38-42 Stryd Fawr, yr Wyddgrug, CH7 1BH ddydd Mercher 11 Mehefin rhwng 10am a 2pm.

Bore Coffi Cymunedol Oed a Dementia

Digwyddiad Bore Coffi Cymunedol Oed a Dementia GOGDdC i ddathlu Wythnos Gofalwyr.听 Bydd cynrychiolwyr yn bresennol o Gyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor ar Bopeth, Age Concern, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, Swyddog Diogelwch T芒n Cymunedol, Y Gymdeithas Alzheimer鈥檚, Gofal a Thrwsio, Well Fed, Y Ganolfan Fancio, Estuary Cars, Cymorth Cymunedol y GIG, Specsavers, Caffi Trwsio Cymru.听 A llawer mwy!听听

Neuadd y Dref y Fflint, CH6 5NW ddydd Iau 12 Mehefin 10am 鈥 12:30pm.

gofalu-am-gydraddoldeb.jpg