Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Parc Arfordir Sir y Fflint yn elwa ar Gymorth Willmott Dixon
Published: 30/05/2025
Cefnogwyd Ceidwad Arfordir T卯m Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint gan Willmott Dixon yn ystod diwrnod gwirfoddoli i staff yn y Fflint y mis hwn.
Roedd y diwrnod yn rhan o ymrwymiad Willmott Dixon i gefnogi鈥檙 gymuned leol drwy Werth Cymdeithasol yn y Fflint, lle mae wedi bod yn gweithio i adeiladu cartref gofal newydd Ty Croes Atti ar safle鈥檙 hen ysbyty cymunedol.
Ar y diwrnod, bu staff Willmott Dixon yn gweithio 芒鈥檙 Ceidwad Arfordirol, Mike Taylor, wrth wella mannau eistedd mewn golygfan yn Aber Afon Dyfrdwy yn y Fflint.听 Bu鈥檙 gwirfoddolwyr wrthi鈥檔 brysur yn peintio clwydi a bolardiau, chwynnu, ysgubo, a thaenu llwch calchfaen o amgylch y mannau eistedd.听 Y Fflint yw鈥檙 prif ganolbwynt ym Mharc Arfordir Sir y Fflint, lle mae pobl yn dod i fwynhau鈥檙 golygfeydd o Parkgate a phatrymau dyddiol y llanw a thrai. Mae鈥檔 boblogaidd 芒 cherddwyr a gosodwyd mainc yno drwy鈥檙 prosiect 鈥極ddi ar y Fflint鈥.
Yn ogystal 芒鈥檙 staff a fu鈥檔 gwirfoddoli, cyfrannodd Willmott Dixon ddeunyddiau i wella'r man eistedd.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson (Aelod Cabinet dros Gyllid a Gwerth Cymdeithasol): "Rydym yn falch iawn o brosiectau gwerth cymdeithasol fel hyn. Mae gwerth cymdeithasol yn gynyddol bwysig i bawb.
鈥淵n y b么n, gwerth cymdeithasol yw鈥檙 effaith y mae sefydliadau鈥檔 ei chael ar gymunedau lleol a鈥檙 gymdeithas ehangach, drwy wario arian yn lleol ar gontractau, gwirfoddoli, creu swyddi, gweithgareddau ymarferol a rhoddion. Mae鈥檔 creu cyfleoedd inni hybu lles pobl ochr yn ochr 芒 busnesau yn y sector preifat ac yn ein galluogi i gynnal gweithgareddau fel hyn i wella鈥檙 ardal leol.听
听
鈥淒yma enghraifft wych o sut y gall diwydiant a鈥檙 sector cyhoeddus weithio鈥檔 agos i wella Arfordir Sir y Fflint trwy werth cymdeithasol. Gobeithiwn y bydd pobl yn mwynhau ymweld a mwynhau鈥檙 lle ar ei newydd wedd, a chael golygfeydd hyfryd o Aber Afon Dyfrdwy."
Roedd diwrnod y gwirfoddolwyr yn garreg filltir i Willmott Dixon ac i gymuned y Fflint, lle cwblheir cartref gofal newydd Ty Croes Atti yn yr haf, a fydd yn darparu tai graenus i 56 o bobl leol fyw ynddynt yn ddiweddarach yn eu hoes.
Wrth ddatblygu Cartref Gofal Ty Croes Atti hyd yn hyn, mae Willmott Dixon, Cyngor Sir y Fflint a鈥檜 partneriaid wedi creu cyfanswm o 13 o gyfleoedd newydd am waith i drigolion lleol Sir y Fflint, gan gynnwys tair o swyddi i bobl a fu鈥檔 ddi-waith am gyfnod hir yn flaenorol a dau ar gyfer pobl wedi gadael y carchar.
Treuliodd t卯m Willmott Dixon 214 o oriau鈥檔 cynnal gweithgareddau addysgol a 223 o oriau鈥檔 gwirfoddoli, gan gefnogi mentrau cymunedol lleol. At ei gilydd, mae Willmott Dixon wedi gwario 拢5.6m o鈥檜 cyllid prosiect yn Sir y Fflint.
Daw cyfraniad Willmott Dixon yn sgil amryw ddarnau o waith i wella Parc Arfordir Sir y Fflint, a agorwyd yn swyddogol ym mis Mawrth eleni yn nigwyddiad Gwyl y M么r yn y Fflint. Mae鈥檙 Cyngor wedi elwa ar gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2023 a 2024 i wella Parc Arfordir Sir y Fflint er budd trigolion ac ymwelwyr 芒鈥檙 Sir.
Dywedodd Rosie McLaren, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol Willmott Dixon: 鈥淩ydym yn rhannu brwdfrydedd Cyngor Sir y Fflint dros greu cyfleoedd yn y gymuned ac rydym yn benderfynol y bydd adeiladu Ty Croes Atti yn gadael gwaddol parhaus er budd y bobl leol.鈥
Mae Parc yr Arfordir yn amlygu cynefin naturiol cyfoethog Aber Afon Dyfrdwy ac Arfordir Sir y Fflint ac yn hynod arwyddocaol wrth sicrhau bod gan bobl fynediad i鈥檙 amgylchedd naturiol, ar gyfer hamdden ac i wella eu hiechyd a鈥檜 lles.听
Mae Parc yr Arfordir yn ymestyn ar draws arfordir Sir y Fflint o Saltney i Dalacre, gan gynnwys Porth y Gogledd a Garden City, Cei Connah a Shotton, y Fflint, Bagillt, Maes Glas, Llannerch-y-m么r a Mostyn, a Gronant.
听听